91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Harold Williams - ifaciw卯 sy'n falch iddo ymgartrefu yng Nghricieth. Ail-fyw arswyd rhyfel
Bu rhai o drigolion y gogledd orllewin yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd am eu profiadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn y gyfres Cenhedlaeth y Rhyfel ar 91福利社 Radio Cymru.

Maen nhw yn rhan o'r genhedlaeth a wnaeth fyw drwy brofiadau na all y rhan fwyaf ohonom ond ei ddychmygu, sef arswyd yr Ail Ryfel Byd: pobl a welodd gyfeillion, cyfoedion a ch芒r yn cael eu dadwreiddio, eu hanafu a'u lladd mewn rhyfel.

Ac fel mae'r genhedlaeth hon yn cael ei cholli, mae gwirioneddau rhyfel ac efallai wersi a rhybuddion rhyfel yn pellhau. Bu'r darlledwr o Fangor, Dewi Llwyd, yn clywed am brofiadau amrywiol dros hanner cant o bobl, profiadau dirdynnol, erchyll a theimladwy ond hefyd profiadau llawn gobaith a hanesion am gyd-dynnu a brawdgarwch mewn dyddiau tywyll.

Roedd yr ieuengaf o'r cyfranwyr yn 61 a'r hynaf yn 99 oed, ac mae'r cof yn gryf yn eu meddyliau oll. Trwy'r gyfres clywyd am brofiadau milwyr, morwyr, aelodau o'r llu awyr, carcharorion rhyfel, gl枚wyr, gweithwyr fferm a ffatri, gwrthwynebwyr cydwybodol, ifaciw卯s a phlant ysgol.

Yn y rhaglen gyntaf bu Dewi Llwyd yn siarad gyda'r Parchedig Emrys Wyn Evans (isod) sydd yn wreiddiol o Gaernarfon ac a fu'n aelod o'r llu awyr ac yn garcharor rhyfel a Harold Williams o Gricieth (uchod), sy'n honni iddo elwa gan mai'r rhyfel yw'r rheswm ei fod yn nawr yn byw yng Nghymru. Fe ddaeth i Gymru yn ifaciw卯 o Lerpwl, ac aros yma.

"Mewn bob drwg mae rhywun yn elwa yn rhywle," meddai. "Peth erchyll ydi rhyfel, dim dwywaith am hynny, mawr neu bach, erchyll ydi rhyfel. Ond dwi'n berson sydd wedi elwa yn sicr oherwydd bod na ryfel ac oherwydd mod i di cael fy ngyrru fel nes i o Loegr i Gymru."

Roedd hi'n gyfres yr oedd Dewi Llwyd yn amlwg yn falch iawn o fod wedi ei gwneud.

Dewi Llwyd yng nghwmni Emrys Jones"Roeddwn i bob amser wedi edmygu'r modd yr oedd dyrnaid o bobl roeddwn i yn eu hadnabod yn bersonol wedi dygymod 芒 dewisiadau mor anodd, cyfrifoldebau mawr a pheryglon aruthrol," meddai.

"Pobl gyffredin yn gorfod delio 芒 sefyllfa gwbl anghyffredin, boed ymhell o gartref neu ar adegau yma yng Nghymru hefyd. Ac ar y cyfan roedd yn well ganddyn nhw beidio ag ymhelaethu gormod - gwell gan lawer oedd cau'r drws ar gyfnod poenus.

"Pan fu farw un o'r cyfeillion yma heb i mi ei holi'n iawn, mi benderfynais geisio gwneud iawn am hynny drwy fynd ati i roi ar gof a chadw brofiadau gwahanol bobl sy'n cynrychioli cenhedlaeth y rhyfel," meddai.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy