"Dwi'n dod o Lerpwl yn wreiddiol - roedd fy rhieni yn Gymry ac roeddwn wastad yn siarad Cymraeg adref ac yn mynd i'r capel Cymraeg. Roedd y gymdeithas Gymreig yno yn un fawr yr adeg honno gan fod yn rhaid i bobl adael Cymru i gael swyddi fel athrawon, meddygon neu nyrsys.
"Pan ddechreuodd y rhyfel roeddwn yn gweithio fel ffisiotherapydd yn y Royal Infirmary. Hyfforddais yn Lincoln cyn y rhyfel - dim ond un ferch arall oedd ar y cwrs gyda mi.
"Aeth nifer o ferched i weithio oherwydd y rhyfel ond gan fod ffisiotherapi yn reserved occupation, parheais gyda fy ngyrfa er gwaethaf y rhyfel.
"Ond newidiodd nifer fawr o bethau tu hwnt i fy ngwaith. Gyda'r holl fomio, doeddech chi byth yn gwybod os byddai'n bosib cyrraedd y gwaith oherwydd i'r ffyrdd gael eu cau a lladdwyd teulu mewn t欧 heb fod ymhell o d欧 fy rhieni. Felly pan ddaeth swydd yn Ysbyty Broadgreen, Lerpwl, symudais yna ac arhosais am weddill fy ngyrfa.
"Priodais Phil yn 1941. Mi ddaru ni ddywedd茂o cyn iddo gael ei alw i'r fyddin ac roeddem am aros tan ddiwedd y rhyfel i briodi. Ond pan ddaeth adref o'r fyddin am y tro cyntaf a gweld yr holl ddinistr yn Lerpwl, penderfynodd fy mod i mewn cymaint o berygl a fo felly ddaru ni benderfynu priodi y tro nesaf roedd o adref - ar Fawrth 18 1941.
"Cafodd Phil y cyfle i hyfforddi fel swyddog yn y fyddin ond roedd yn well ganddo ymuno efo'r Royal Signals Corps. Cafodd ei anfon i Burma yn 1943. Ar 么l un frwydr, aeth allan i drwsio set weirles a chafodd ei ladd gan saethwr. Derbyniais delegram yn dweud ei fod ar goll ac yna llythyr i ddweud ei fod wedi marw a'i fod wedi ei gladdu mewn bedd dienw.
"Bu farw ddim ond dri diwrnod cyn ein pen-blwydd priodas cyntaf. Doeddem ond wedi cael rhyw bedwar mis efo'n gilydd fel p芒r priod. Ond roeddwn yn ddiolchgar ein bod wedi priodi ac wedi cael amser byr efo'n gilydd.
"Roedd Phil wastad o flaen ei amser ac nid oedd am i mi gael babi hebddo. Doedd y rhan fwyaf o bobl ddim mor feddylgar yn ystod y rhyfel - yn byw am y funud - ond doedd Phil ddim am i mi fod ar ben fy hun gyda babi a fo filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
"Parhaus i obeithio hyd ddiwedd y rhyfel eu bod wedi gwneud camgymeriad, ond mi oedd o'n wir. Codwyd cofgolofn iddynt yn Rangoon gyda'i enw o arno ond nid ydwyf wedi mynd i'w weld. Os buasai yna fedd, buasai hynny'n wahanol, ond beth ydy'r iws jest gweld ei enw?
"Es i 'mlaen gyda fy ngwaith, yn trin pobl oedd wedi cael eu hanafu gan y bomio a chleifion o'r fyddin, yr awyrlu a'r llynges. Mi fyddem yn sicrhau bod ganddon ni fanylion pawb pan fyddent yn dychwelyd i Brydain trwy ddociau Lerpwl - i wneud yn si诺r bod eu teuluoedd yn gwybod eu bod yn fyw ac yn agos i adref."