91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Chwaraeon
Tony Gray
Tony Gray

Ganwyd: 14 Mehefin 1942

Magwyd: Bangor

Addysg: Ysgol y Garth, Ysgol Friars, Bangor


Cyn-hyfforddwr t卯m rygbi Cymru.

Mi wnes i dyfu fyny ym Mangor, a chychwyn chwarae rygbi fel canolwr yn fy nyddiau ysgol yn Friars. Mi wnes i hefyd chwarae i d卯m rygbi Bangor, pan roeddent yn chwarae ar gae ym Miwmares.

Tony Gray yn chwarae i dim London Welsh Mi symudais i wedyn i goleg yng Nghaerdydd a dechrau chwarae yn y rheng 么l. Roedd rygbi coleg yn dra gwahanol i rygbi ysgol wrth gwrs - ac roedd symud i Lundain i chwarae efo'r London Welsh yn newid mawr arall. Roeddwn yna yn ystod amser cyffroes iawn, o 1964 i 1978. Des yn gapten o'r t卯m, ac mi roeddwn yn chwarae efo pobl fel JPR Williams, Gerald Davies, John Dawes a Mervyn Davies - i gyd yn chwaraewyr rhyngwladol i Gymru.

Roeddwn yn hoff iawn o'r gemau yn erbyn timau Cymru pob Pasg a Nadolig - nid yw'r traddodiad yma dal i fod bellach.

Yn 1968, mi wnes i chware i Gymru yn erbyn Lloegr, yr Alban a'r Ariannin. Roedd yn her fawr chwarae yn Twickenham.

Mi wnes i aros ym myd rygbi ar 么l gorffen chwarae; yn 1987 cefais fy newis fel hyfforddwr Cymru. Roedd yn gyfnod cyffroes arall i rygbi Cymreig, gyda chwaraewyr ifanc fel Jonathan Davies, Robert Jones a Dai Young. Ddaru o gymryd sbel i ni setlo, ond roeddem wastad yn symud yn y cyfeiriad iawn.

Ddaru ni fynd draw i'r Cwpan Byd Rygbi cyntaf yn Seland Newydd ac Awstralia yn 1987. Er i ni golli'n drwm i'r Crysau Duon yn y rownd gynderfynol, ddaru ni guro Awstralia i ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth.

Mi wnes i adael y swydd yn 1988, jest blwyddyn cyn i'r chwaraewyr ifanc dechrau symud i'r gogledd i chwarae Rugby League. Roeddwn yn ddarlithydd yn y brifysgol ym Mangor cyn i mi ymddeol.

Dwi r诺an yn lywydd ar Undeb Rygbi Gogledd Cymru ac yn ffyddiog bod y g锚m yn yr ardal yma yn dod yn ei blaen yn dda. Mae'r g锚m yn un broffesiynol erbyn hyn ac felly mi fydd arian a'r gallu i amharu ar bethau, ond dwi'n llawn cyffro am d卯m rhyngbarthol newydd y gogledd.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi sylweddoli o'r diwedd bod yna dalent yn y gogledd, ac yn cymryd camau i ddatblygu hyn. Mae'r niferoedd o chwaraewyr o'r gogledd sy'n rhan o dimau ieuenctid Cymru wedi cynyddu ac mae'n argoeli'n dda am y dyfodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy