"Mi rydach chi'n cael dweud pethau na fedrwch eu dweud mewn unrhyw ffordd arall. Mi fedrwch chi regi dyn a chael eich erlyn am enllib, ond mi fedrwch chi awgrymu pethau mewn llun a fedran nhw ddim mynd ar eich 么l chi. O leiaf, dydw i ddim yn meddwl y medran nhw," Ralph Steadman yn s么n am ei gartwnau.
Ralph Steadman ydy un o gartwnwyr a darlunwyr enwocaf Prydain. Fo wnaeth agor uned greadigol newydd Adran Gelf Ysgol Emrys ap Iwan a enwyd er anrhydedd iddo.
Ganwyd Ralph, mab Gwendoline a Raphael Steadman - gwerthwr dillad isaf merched oedd hefyd yn cynhyrchu gwin cartref - yn Wallasey a'i fagu yn Abergele. Ar 么l gorffen ei addysg yng ngogledd Cymru, aeth i Lundain i astudio celf yn yr Ysgol Argraffu a Chelf Graffeg yno.
Mae wedi cael gyrfa lwyddiannus iawn yn gweithio ar gartwnau i Punch, Private Eye, The New Statesman a'r Daily Telegraph.
Mae hefyd wedi creu darluniau ar gyfer nifer o lyfrau gan gynnwys: