91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Jonah Williams yn ei lifrai milwrol Profiadau Irac
Bu dau o hogiau'r ardal, Kevin Thomas o Fangor, a Jonah Morris Williams o Dregarth yn siarad am eu profiadau o fod yn filwyr yn Irac, ddwy flynedd wedi dechrau'r rhyfel yno, ar 91福利社 Radio Cymru.
Postmon ym Mangor yw Kevin Thomas o ddydd i ddydd; fo sy'n dod 芒'r post i ganolfan 91福利社 Cymru ym Mangor bob dydd.

Ac yntau yn aelod o'r TAs fe'i galwyd i Irac ar ddechrau'r rhyfel a bu yno hyd at fis Hydref.

Mae'n dad i ddau fab pedair a saith oed, felly roedd gadael ei deulu yn mynd i fod yn anodd, ond roedd yn derbyn ei fod yna am reswm, sef gyrru lor茂au trymion gydag offer a milwyr o gwmpas Basra. Ond roedd yn brofiad caled, meddai.

"Welish i lot," meddai. "Nes i weld tair roadside bomb ar fy nghonfoi i, reit wrth fy ymyl i. Mae o'n digwydd mor fast ti ddim yn cael munud i feddwl amdano fo."

Ond un profiad a gafodd argraff ddofn arno oedd marwolaeth cyd filwr, Cymro ifanc o'r gogledd.

"Dyna'r peth gwaetha 'nes i weld yn fy mywyd erioed. A dwi'n ei weld o r诺an. Ei roi o ar gefn yr aeroplane yna a'r drws yn cau ar ei 么l o. Undeg naw oedd y creadur bach ac wedi cael ei yrru adre mewn bocs. A phwy oedd yn disgwyl amdano fo 'rochor arall? Ei wraig a'i blant? Ei fam a'i dad o?

"Mae o wedi effeithio lot arna i ar 么l dod n么l adra. Dwi ddim yn gallu delio hefo crowds ar y funud. Fatha cerdded i lawr Stryd Bangor fel postman, dwi'n sb茂o y tu 么l i fi, i fyny, i'r chwith ac i'r dde bob tro. Yn y t欧 dwi'n methu eistedd i lawr am bum munud, dwi fyny a lawr. Mae'n anodd ffitio n么l i society. Achos bo fi 'di rhedeg ar hundred miles an hour yn Iraq.

"Dwi'n dal i redeg ar 50 neu 60. Dwi yn falch bo fi wedi bod yna a 'di neud o a wedi dod adra' yn un pishyn. Dwi isho jyst anghofio amdano fo rwan."

O Dregarth y daw Jonah Morris Williams. Fe fu ei bartner Catrin Owen a'i dad Dyfrig Williams yn s么n am y profiad o ddelio gyda bywyd o bryder tra roedd allan yn Irac.

Jonah n么l adre yn Nhregarth gyda Catrin"'Dach chi ddim yn gallu dweud wrth neb," meddai ei dad, Dyfrig. "'Di o ddim yn fath o boen fel dy fraich yn brifo. Mae fatha rhywbeth yn eich stumog chi, fatha'r ddannodd."

"Pan oni yna ar ddechrau'r rhyfel, toedd o ddim yn teimlo'n iawn," meddai Jonah ei hun.

"Oeddan ni yn cwffio nhw ar y dydd Llun ac oeddan ni yn rhoi bwyd iddyn nhw ar y dydd Iau. Oedd hi mor sydyn a hynna. Oedd pobl isho helpu ond oeddan nhw ofn, jyst rhag ofn i Saddam ddod yn 么l."

"Dwi di bod yn cadw'n bositif trwy fynd at ei dad o," meddai Catrin. "Mae o'n cadw fi'n gryf, mae'i dad o wedi bod yn andros o gefn."

  • Bu Kevin Thomas, Jonah Morris Williams, ei bartner Catrin a'i dad Dyfrig, ynghyd 芒 Jeff Molton o Aberystwyth, yn siarad am eu profiadau gyda Iolo ap Dafydd yn y rhaglen Profiadau Irac ar ddydd Sul, 20 Mawrth am 10.15am ar 91福利社 Radio Cymru.

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy