|
Mae'r prosiect wedi recordio 1,200 o bobl yn mwynhau sgyrsiau gyda chydweithwyr, cyfoedion, teulu a ffrindiau i gyd yn adlewyrchu acenion, geiriau a bywyd bob dydd yr ardaloedd lle maen nhw'n byw. Fe ellwch chi wrando ar gyfweliadau Cymraeg y prosiect o'ch ardal chi drwy glicio isod neu ewch i i weld yr holl gyfweliadau. Aelodau o g么r meibion yn ardal Cyffordd Llandudno yng Nghonwy yn hel atgofion am eu dyddiau ysgol.
Saith o drigolion ardal y Bala yn siarad am y gymuned heddiw ac ers talwm.
Staff un o gaffis Pwllheli yn cwrdd ar ddiwedd shifft i drafod idiomau a chymeriadau lleol.
Er mai cyfweliad Saesneg yw hwn gyda rhai o ddisgyblion ysgol o Fethesda, maent yn trafod dylanwad yr iaith Saesneg ar eu Cymraeg.
 |