91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Taid Rebecca a gweddill y carcharorion o'r un caban - (ef yw'r un efo'r cylch coch o'i amgylch) Stori carcharor rhyfel
Dyma sut y gwnaeth prosiect ysgol Rebecca o Abergele dyfu i fod yn safle ar y we fyd-eang am hanes ei thaid yn yr ail ryfel byd. Fedrwch chi ei helpu i ddarganfod mwy?

Ym mlwyddyn naw, roedd yn rhaid i ni wneud prosiect yn y gwersi Hanes am yr Ail Ryfel Byd, felly penderfynais ei wneud am fy nhaid, a oedd yn garcharor rhyfel.

Mae fy nhaid wedi marw ers rhai blynyddoedd ond roedd gan fy nhad lot o'i hanes a lluniau a dogfennau o'r cyfnod. Doedden ni heb wneud dim am garcharorion rhyfel yn yr ysgol ond ar 么l dysgu am taid, roeddwn eisiau gwybod mwy, fel sut brofiad oedd y daith o Dunkirk, lle cafodd ei ddal, i Stalag 8b, lle gafodd ei garcharu?

Yn ystod y pum mlynedd roedd fy nhaid yn garcharor rhyfel, roedd o wedi dianc dair gwaith, ond dim ond un waith yn llwyddianus. Does neb yn gwybod beth ddigwyddodd iddo y troeon nad oedd yn llwyddianus gan nad oedd o'n siarad fawr am yr adeg honno o'i hanes.

Gan nad oedd fy nhaid wedi siarad lot am ei brofiadau, roedd yn rhaid i mi chwilio am lot o bethau ar y we - ond doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i lawer o ffeithiau ar y we am Stalag 8b felly dyna pam y penderfynais i greu fy hun. Y bwriad ydy rhannu'r wybodaeth dwi wedi ei darganfod, ond hefyd i weld os alla i ddarganfod mwy am brofiadau fy nhaid.

Bydd yn ddiddorol iawn ffeindio rhai o'i ffrindiau a oedd hefyd yn garcharorion. Er mai dim ond am ychydig fisoedd mae'r wefan Gymraeg wedi bod i fyny, a'r un Saesneg am chydig llai, dwi wedi cael lot o ddiddordeb ynddyn nhw yn barod.

Mi wnes i ddefnyddio CD-rom i ddysgu fy hyn sut i greu'r wefan. Doedd creu gwefan ddim yn rhy anodd, ond mae'n anoddach ffeindio rhywun i'w 'hostio' fo - mae'n bwysig cael yr un cywir, a'r un sy'n costio'r lleiaf!

Mae mab rhywun oedd yn yr un gwersyll 芒 fy nhaid wedi fy e-bostio yn barod ac roedd yn ddiddorol iawn clywed ganddo.

Mae fy nhad yn meddwl ei fod yn syniad gwych. Roedd wedi clywed lot o straeon ond bydd yn dda gallu rhoi'r darnau o'r jigso i gyd efo'i gilydd.

i ddarllen stori taid Rebecca, John Jeffers.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy