91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Bwydo'r dychymyg yn Eisteddfod yr Urdd 2004
Bydd yna ddigonedd o weithgareddau creadigol drwy gydol yr wythnos nesaf i ddiddanu ymwelwyr ifanc 芒 Phafiliwn Cyngor Sir Ynys M么n yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ynys M么n 2004.
Mae rhaglen Gwasanaeth Llyfrgell y Cyngor Sir yn cynnwys: sesiynau canu ac adrodd straeon gyda'r amryddawn Mair Tomos Ifans; sioe bypedau poblogaidd Cwmni Cortyn; Yr Awr Lyfrau yng nghwmni'r awdures plant Nesta Griffith; a chyfle i ddarpar feirdd y dyfodol farddoni dan arweiniad un o lenorion mwyaf poblogaidd Cymru.

Bydd Twm Morys, Prifardd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, yn tywys aelodau o Sgwad Sgwennu Ynys M么n (ynghyd ag unrhyw berson ifanc arall sydd 芒 diddordeb) ar daith o amgylch Maes yr Eisteddfod, a'u hannog i lunio cerddi ar sail y pethau o'u cwmpas.

Yn ogystal, bydd staff o Adran Cylchgronnau yr Urdd yn cynnal dwy sesiwn fydd yn egluro sut y maent yn mynd ati i gynhyrchu cyhoeddiadau fel iaw! a CIP!. Bydd yna gyfle i bobol ifanc greu deunydd eu hunain, all un diwrnod ymddangos yn un o rifynnau'r dyfodol.

Mae'r Cyngor Sir hefyd wedi trefnu ambell i weithgaredd mewn partneriaeth 芒 Phwyllgor Llenyddiaeth yr Eisteddfod ym M么n. Drwy gydol yr wythnos, bydd yna gyfle i blant a phobol ifanc greu lluniau ar sail cerddi ar gyfer yr arddangosfa Cerdd a Llun, arddangosfa fydd yn tyfu'n ddyddiol wrth i'r goreuon yn yr oedrannau cynradd ac uwchradd gael eu hychwanegu at yr oriel.

Un o uchafbwyntiau ddydd Iau, Mehefin 3, wedyn, fydd Talwrn Ysgolion Uwchradd M么n am 11.00 y bore. Y llenor aml-dalentog Gwyneth Glyn fydd y Meuryn ac bydd y Parchedig Ddoctor Dafydd Wyn Wiliam yn cyflwyno'r tlws i'r buddugwyr ar ran Cymdeithas Morisiaid M么n.

Bydd arddangosfa arbennig o fewn Pafiliwn y Cyngor yn amlinellu gwaith Asiantaeth Gelfyddydol Ysgolion Gwynedd a M么n sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion gydweithio ar brojectau gydag arbenigwyr celf, dawns ac ati. Bydd yr Academi Gymreig hefyd yn bresennol i s么n am ei gweithgareddau ar yr Ynys - bydd y corff llenyddol hefyd yn cynnal Ymryson brynhawn Gwener, Mehefin 4. Bydd rhaglen Cynnal hefyd yn cynnwys amryw o weithgareddau creadigol trwy'r wythnos, ac i fwydo'r dychymyg ymhellach, bydd cyfrifiaduron wedi eu cysylltu i system band eang di-wifr arobryn y Cyngor Sir, Cyswllt M么n, ar gael i ymwelwyr ifanc - a hen - eu defnyddio yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Dywedodd John Rees Thomas o'r Adran Addysg a Hamdden, "Mae'r Eisteddfod wedi bod yn gyfle gwych i gynnig blas i gynulleidfa eang o'r ystod o wasanaethau y mae'r Cyngor yn ei ddarparu ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r gwasnaethau wedi bwrw ati yn frwdfrydig iawn i baratoi at yr Eistedfod - gallwn sicrhau croeso cynnes ac amser diddorol i bawb a fydd yn ymweld 芒 ni."

Mae amserlen llawn o holl weithgareddau Cyngor Sir Ynys M么n yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ynys M么n 2004 yn awr ar gael. Mae safle'r Cyngor Sir wedi ei leoli gyferbyn 芒 phrif Bafiliwn Cae Sioe Mona, ac mae'n arwain yn uniongyrchol at y Babell Celf a Chrefft.

Cyngor Ynys M么n


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud 芒 gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy