91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Gang i efelychu traddodiad y "lengthmyn"
Mae hen ffordd o ddarparu gwasanaeth cynnal ffyrdd wedi cael ei hatgyfodi a'i haddasu ar Ynys M么n fel rhan o gynllun peilot.
Mae Gang Gymunedol wedi cychwyn yn ddiweddar yng ngogledd orllewin yr Ynys gan ymgymryd 芒'r math o f芒n broblemau oedd yn arfer cael eu datrys gan fforddolwyr neu "lengthmyn" rai blynyddoedd yn 么l. Bydd eu cyfrifoldebau yn cynnwys m芒n waith traenio ac agor ffosydd, llenwi tyllau yn y ffyrdd a chlirio eu hymylon, trwsio a glanhau arwyddion ffyrdd a graeanu gelltydd yn 么l yr angen.

Eglurodd Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir Ynys M么n, Dewi Williams: "Mae llawer o ddefnyddwyr ffyrdd y Sir wedi datgan siom dros ddiddymu'r hen drefn o ddefnyddio "lengthmyn" lleol n么l yn y 1970au, lle roedd unigolion yn gyfrifol am gynnal a chadw rhannau penodol o'r ffyrdd.

"Oherwydd arferion gwaith y byd sydd ohoni bellach, byddai'n amhosib ailgyflwyno'r drefn honno fel ag yr oedd hi, ond 'rydym wedi addasu'r syniad gwreiddiol i greu'r Gang Gymunedol gyda'r gobaith o ddarparu gwasanaeth lleol sy'n ymateb yn fwy effeithiol i ofynion lleol."

"Mae'r cynllun yn bartneriaeth rhwng y Cyngor Sir, cwmni JDM Accord a'r cynghorau cymuned. Bydd cynrychiolwyr o'r gymuned yn cysylltu'n rheolaidd 芒'r Arolygwyr Ffyrdd er mwyn tynnu sylw at fannau lle mae angen gweithredu. Y gobaith yw y bydd y Gang Gymunedol yn gallu ymateb yn gyflym i'r galwadau hyn gan gwblhau'r gwaith o fewn diwrnod."

Bydd gangiau eraill y Cyngor yn parhau i ddelio 芒 gwaith o natur mwy sylweddol sy'n cynnwys peiriannau mwy a chostau uwch. Bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal am flwyddyn yn ardaloedd Cynghorau Cymuned Llanfachraeth, Llanfaethlu, Cylch y Garn, Tref Alaw a Mechell, a bydd swyddogion o'r Adran Priffydd, Trafnidiaeth ac Eiddo yn cwrdd gyda'r Cynghorgau Cymuned er mwyn asesu llwyddiant y cynllun.

Cyngor M么n


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud 芒 gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy