91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Grant yn hwb i faethu yng Ngwynedd
Fe allai nifer y plant syn cael eu gosod gyda gofalwyr maeth tu allan i'w cynefin leihau yn y dyfodol o ganlyniad i arian ychwanegol mae Cyngor Gwynedd wedi ei dderbyn.
Bydd y grant ychwanegol o 拢60,000 yn galluogi Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd i wella y Strategaeth Gosod a datblygu dewis ehangach o ofalwyr trwyr sir.

Mae'r arian yn rhan o becyn gwerth 拢95,000 a gyflwynir gan y Cynulliad Cenedlaethol fel rhan o'r Cynllun Plant yn Gyntaf. Nod y cynllun yw hyrwyddo y cyfle bywyd gorau i blant a phobl ifanc fwyaf bregus o safbwynt gofal, addysg a iechyd.

Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu defnyddio'r arian ychwanegol i ddatblygu gwasanaethau i roi cefnogaeth sylweddol i blant a teuluoedd yn ystod y cyfnod cyntaf pan fo teuluoedd yn gofyn am leoliad.

"Mae ymchwil yn dangos os na ddychwelir plant adref yn yr wythnosau cychwynol fod y siwns i hyn digwydd yn lleihau gydag amser," meddai Aled Gibbard sydd newydd ei benodi yn Rheolwr Gwasanaethau Maethu, Mabwysiadu a Phreswyl Cyngor Gwynedd.

"Bwriedir defnyddio'r arian i gychwyn datblygu Cynllun Rhieni Maeth ar gontract a bydd hyn yn cynnyddu'r opsiynau o ran lleoliadau o fewn yr adran ar gyfer y dyfodol," ychwanegodd.

Ar hyn o bryd mae 150 o blant yng Ngwynedd mewn gofal maeth a 68 o ofalwyr cofrestredig. Er mwyn cyrraedd y galw cynyddol, mae gweithwyr gofal yn apelio yn gyson am fwy o bobl i gynnig help.

Mae galw penodol am bobl i gynnig gofal maeth am blant yn eu harddegau a phlant gydag anableddau. Yn ogystal mae angen pobl all gynnig gofal am gyfnodau byr neu mewn achosion o argyfwng.

Mae'n hynod anffodus fod plant yn cael eu gosod mewn gofal maeth ond mewn rhai achosion byddai'n llesol iddynt aros gyda teuluoedd o fewn eu cynefin neu gymuned y mae nhw yn gyfarwydd a hi," meddai Glyn Hughes, Arweinydd Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd.

Mi fydd y grant ychwanegol yn helpu i hyrwyddo hyn a gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth i blant yma yng Ngwynedd," meddai.

Am fwy o wybodaeth am faethu neu fabwysiadu cysylltwch 芒 Chyngor Gwynedd ar (01286) 679841.

Cyngor Gwynedd


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud 芒 gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy