91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Ceir clasurol Aston Martin a Mercedes yn dringo'r ffordd serth uwchben Cwm Cynllwyd at Fwlch y Groes ym Meirionnydd, a fydd yn rhan o arddangosfa ceir clasurol ym Mharc Glynllifon. Ceir clasurol
Bydd casgliad gwych o geir clasurol o bob lliw a llun ymhlith prif atyniadau rali hen beiriannau a gynhelir ym Mharc Glynllifon, ger Caernarfon, yr wythnos nesaf.
Bydd dros 90 o geir, gan gynnwys enghreifftiau godidog o'r Jaguar XK enwog a motos pen meddal eraill o'r 1950au a'r 1960au, yn galw yng Nglynllifon fel rhan o un o raliau mwyaf Gwledydd Prydain ar gyfer ceir clasurol.

Mae'r Three Castles Welsh Classic Trial yn daith dridiau 500 milltir o hyd fyrdd a phriffyrdd y - Gogledd Cymru - gan ymweld 芒 Pharc Glynllifon rhwng 8.30 a 10.15 fore Sadwrn, 5 Mehefin 2004.

Bydd yr ymweliad yn rhan o'r ddegfed Rali St锚m a Hen Beiriannau blynyddol a gynhleir eleni ym Mharc Glynllifon drwy ddydd Sadwrn a dydd Sul (5-6 Mehefin 2004).

Wedi'i threfnu ar y cyd rhwng Parc Glynllifon a Chymdeithas Diogelu Hen Beiriannau Gogledd Cymru bydd y rali, unwaith eto eleni, yn cynnwys ceir hynafol, beiciau modur, peiriannau fferm a pheiriannau st锚m. Y pris mynediad fydd 拢2 i oedolion - hanner pris i blant.

"Mae'r Rali St锚m a Hen Beiriannau bellach wedi hen ennill ei phlwyf fel un o'r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr Patc Glynllifon, a dyma, heb os, yw un o'n penwythnosau mwyaf poblogaidd," meddai Rheolwr Parc Glynllifon, Gwynedd Roberts.

"Rydan ni'n hynod o falch o groesawu'r Three Castles i'n plith , ac rwy'n sicr y bydd yr atyniad ychwanegol hwn yn gwneud y Rali eleni'n fwy poblogaidd nag erioed o'r blaen," ychwanegodd.

Tra yng Nglynllifon bydd cystadleuwyr y Three Castles yn cynnal profion llywio a gyrru yn ogystal 芒 mwynhau gweddill y sioe.

"Fe wnaethon ni ddewis Glynllifon am fod y parc yn leoliad gwych ar gyfer cynnal profion ar allu a rheolaeth gyrwyr, yn ogystal 芒 bod yn lle dymunol i aros ar ein ffordd," meddai Cyfarwyddwr y Three Castles Trial, Ian Crammond.

"Rydan ni hefyd yn falch o gynnig y cyfle hwn i ymwelwyr weld y ceir a chyfarfod eu gyrwyr a'u perchnogion - hwn fydd ein hymweliad cyntaf 芒 Glynllifon, a rydan ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at y digwyddiad," ychwanegodd.

Bydd adloniant ar gyfer y teulu i gyd ym Mharc Glynllifon dros y Sul, gyda'r gr诺p lleol Dangerous Age yn canu brynhawn Sadwrn, a Hogia'r Bonc o Fethesda, ddydd Sul.

Fe fydd yr injan st锚m De Winton, sef yr ail injan st锚m hynaf yng Ngwleydydd Prydain ac a leolir yn un o weithdai Parc Glynllifon hefyd ar waith fwrw'r Sul.


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud 芒 gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy