91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Matty Murphy yn Safle Monitro Amgylchedd Eryri Cadw llygad amgylchedd Eryri
Bydd ychwanegiad newydd i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn rhoi cyfle i'r cyhoedd gael cipolwg ar yr amodau tywydd ar Yr Wyddfa, tra'n parhau i gasglu data ar gyfer gwaith ymchwil amgylcheddol tymor hir.
Ers 1995 mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi bod yn cynnal safle monitro amgylcheddol fel rhan o Rwydwaith Newid Amgylcheddol y Deyrnas Unedig. Nod y rhwydwaith yw monitro'r amgylchedd yn y tymor hir drwy edrych ar hinsawdd ac ecoleg ledled y DU. Mae safle'r Wyddfa wedi bod yn weithredol ers wyth mlynedd bellach ac wedi'i sefydlu'n gadarn fel un o bum safle uwchdir yn y DU, ar unig safle ar y ddaear yng Nghymru.

Cyflwynwyd gwe dudalennau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y prosiect yn awr, a chyswllt electronig i'r orsaf dywydd. Mae'r safle wedi'i leoli tua 500 metr uwchben lefel y m么r ar Diffwys, un o'r copaon pedol o dan gopa'r Wyddfa. Trosglwyddir data o'r safle bob awr, gan gofnodi gwybodaeth am y tymheredd, glawiad a chyfeiriad a chyflymder y gwynt. Mae'r orsaf dywydd yn casglu data gwerthfawr sy'n cyfrannu i'n dealltwriaeth o newidiadau amgylcheddol, ar y cyd a'r arolygon o blanhigion ac anifeiliad. Ewch i'r wefan a dilynwch y cyswllt ar gyfer Gwyddor Daear.

Dywedodd Clive Walmsley, Ymgynghorydd Newid Amgylcheddol CCGC: "Nod y Rhwydwaith Newid Amgylcheddol yw canfod newidiadau amgylcheddol tymor hir, megis effeithiau newid yn yr hinsawdd a llygredd. Gwir gryfder y rhwydwaith yw amrediad y cofnodion a gesglir, o dymheredd a glawiad i newidiadau yn y llystyfiant a nifer y gloynnod byw. Yna gellir defnyddio'r data i edrych ar berthnasoedd, megis rhwng yr hinsawdd a byd pethau byw. Gyda data wedii gasglu dros 8 mlynedd hyd yma, mae safle Rhwydwaith Newid Amgylcheddol Yr Wyddfa yn datblygu i fod yn ffynhonnell ddata amgylcheddol tymor hir mwyaf gwerthfawr Cymru.

Dywedodd Matt Murphy, Rheolwr Safle Rhwydwaith Newid Amgylcheddol Yr Wyddfa: "Bydd y tudalennau newydd ar y we yn rhoi syniad o'r tywydd i bobl cyn iddynt gychwyn o'u cartrefi. Gallai fod yn arweiniad defnyddiol os caiff ei ddefnyddio ar y cyd 芒 rhagolygon tywydd lleol. Serch hynny, rhaid pwysleisio y gall yr amodau tywydd ar Yr Wyddfa newid yn sydyn ac yn ddirybudd."

Cyngor Cefn Gwlad Cymru


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud 芒 gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy