Bydd cyfres newydd ar 91福利社 Radio Cymru, Cofis Ysgubol (Dydd Sul, Mehefin 6) yn egluro popeth. Stad o ryw 900 o dai yng Nghaernarfon, sef stad Ysgubor Goch, yw hon, lle mae llysenwau teuluoedd wedi'u defnyddio ers cenedlaethau nes i bawb anghofio sut y dechreuodd y fath enwau yn y lle cyntaf.Portread cynnes o stad lle mae bron 90 y cant yn siarad Cymraeg yw'r gyfres hon o bum rhaglen, 芒 Llion Williams yn siarad gyda chymeriadau'r stad gan flasu rhai agwedd o fywyd ar y stad. Yma cawn gyfarfod 芒 theuluoedd gydag enwau anghyffredin fel Lovell a Bohana a Beale, cawn gip ar sut waith sydd i'w gael; sut mae'r gymuned yn helpu ei hun; yr hiwmor a'r diwylliant arbennig sy'n perthyn i Sgubor Goch a pha mor bwysig yw p锚l-droed mewn ardal sydd wedi rhoi genedigaeth i nifer o b锚l-droedwyr enwog.
Mae Mati, sy'n 81 mlwydd oed, wedi byw yno ers 48 mlynedd. Er bod s么n am broblemau fel cyffuriau, dyw hi ddim yn teimlo bod llawer wedi newid yn y pen yma o'r stad. "Mae Mrs Huws a Mrs Jones yn dal yma, a does dim lol," meddai. Hwn yw'r t欧 lle mae goleuadau mawr dros y Nadolig: "Mae genai Santa Cl么s yn Chitty Chitty Bang Bang, Santa Cl么s mewn speedboat, pedwar reindiar yn tynnu slej..."
Nodwedd arall yw teuluoedd sy'n aros yn agos i'w gilydd. Meddai Mati, "Mae Eira ni dros y ffordd, merch arall dros y ffordd hefyd, mab yn ardal Cilcoed, un arall wrth y cae ffwtbol, llall yn rhedeg camping site yn Llanrug... Maen nhw yma neu ar y ff么n bob dydd, a phawb yn dwad i ginio Dydd Sul."
Clywn hefyd gan Catherine Lewis sydd wedi cael 17 o blant ac wedi hyd yn oed magu un arall. "Mae 'na lot o deuluoedd mawr yma, ond neb 芒 chymaint 芒 fi," meddai. Dau yn unig o'i phlant sy'n byw yn lleol ac mae hi'n nain ac yn hen nain i amryw o wyrion "ond fedrai ddim cyfrif nhw", meddai.
Mae hi wedi bod yn ei th欧 ers 25 mlynedd ac wedi gweld newidiadau yn yr ardal. "Does nunlle i fynd yng Nghaernarfon dyddiau 'ma," meddai. "Dim ond bingo - mi fyddai'n mynd i'r Empire yng Nghaernarfon bob nos Iau."
Pan oedd Elizabeth "Abedyfi" yn mynd i'r bingo gyda'i ffrindiau ar nos Iau, byddai ei g诺r, Twm, yn gwarchod y plant. Cofia Gerald Parri sut y byddai allan yn chwarae yn y stryd pan oedd yn chwech neu saith oed. "Byddai wncl Twm yn galw'r plant i gyd i'r t欧 i n么l swpar - chips a lemon锚d - a wedyn gyrru ni i fynnu grisiau i'r gwely. 'Yncl Twm dwi'm yn byw yma' meddwn i ond doedd Yncl Twm yn cymryd dim sylw. Hwyrach ymlaen pan ddaeth Anti Liz adref cafodd sioc i'm gweld yn y gwely. 'Be ti'n neud yma?'" meddai.
Sipsiwn oedd y Lovells yn wreiddiol, ac ar y rhaglen mae Dennis Williams yn s么n am ei falchder o fod yn un o'r teulu. "Sgotwyr oedd y Lovells, allan yn y bae. Roeddent yn cael pleser a bwyd i'r teulu. Mae Jim yn dal i hel cocos."
Roedd y teulu yn byw yn agos iawn at ei gilydd a phawb yn eu hoffi. "Maent yn licio dod at ei gilydd o gwmpas 'Dolig a'r flwyddyn newydd i ganu hefo'r ukulele. Dwi'n falch i fod yn perthyn iddyn nhw," meddai Dennis.
A phwy fydde'n credu bod cymaint o b锚l-droedwyr adnabyddus wedi'u magu ar stad Sgubor Goch? Dyna Wyn Davies a chwaraeodd i d卯m Cymru yn ogystal 芒 Manchester United, Manchester City a Newcastle; Tom Whalley, a chwaraeodd i Spurs a Middlesborough ac aeth ymlaen i hyfforddi Watford gan gyflwyno nifer o chwaraewyr Cymraeg i'r t卯m, gan gynnwys Ken Owen o'r stad; Wayne Phillips, sydd bellach wedi ymddeol o chwarae ac yn rheolwr Caernarfon y tymor nesaf, a Haydn Jones, sy'n chwarae i Wrecsam.
Ar 么l cau Trawsfynydd, a llai o waith ar gael yn Wylfa, mae diweithdra yn broblem ar y stad. Ond mae Michael Jones, sydd newydd adael yr ysgol, wedi trefnu ei ddyfodol yn barod. Gyda'i ffrindiau, Ryan a Kieron, mae e wedi ymuno 芒'r fyddin, fel y gwnaeth ei ddau frawd o'i flaen.
Ond gyda chymaint o bobl yn siarad Cymraeg ac yn parhau i fyw bywyd tebyg i genedlaethau cynt, mae Ysgubor Goch yn aros fel microcosm o fywyd Cymreig sydd wedi diflannu o lawer o gymdeithasau Cymru, gan gadw ei hiwmor a'i thraddodiadau ei hun.
Cofis Ysgubol, Dydd Sul, Mehefin 6, 91福利社 Radio Cymru, 12pm.