91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Dr Mair Edwards a Ffion Dafis Tra bo dau, neu dri, neu bedwar ...
Mae cyfres newydd ar S4C yn cynnig ffordd newydd o gyfarfod partner cariadus.
Bob wythnos ar Cinio Caru bydd un person sengl yn cael cyfle i fwynhau pryd o fwyd blasus mewn lleoliad rhamantus, gwesty Castell Deudraeth ym Mhortmeirion. Bydd y person lwcus yma yn rhannu pob un o'r tri chwrs gyda pherson sengl gwahanol.

Bydd y pryd cyfan yn cael ei ffilmio, gydag ymgynghorydd seicolegol y gyfres, Dr Mair Edwards, yn gwylio ac yn dadansoddi pob symudiad yng nghwmni cyflwynydd Cinio Caru, Ffion Dafis. Ar ddiwedd y pryd, bydd y person yn dewis pa un o'r tair neu dri fydd yn ymuno ag ef/hi ar benwythnos rhamantus dramor.

Arwel JonesYn rhaglen gyntaf y gyfres bydd Arwel Jones o bentref Glan-yr-afon ger Corwen yn mwynhau cwrs cyntaf yng nghwmni Si芒n Rhun Griffiths o Benmachno ger Llanrwst; prif gwrs yng nghwmni Nia Williams o Gei Newydd a'r pwdin gyda Karen Williams o Gaernarfon. Gyda chyngor doeth Dr Mair a Ffion Dafis yn atseinio yn ei glustiau, pa ferch fydd o'n ei dewis ar gyfer gwyliau penwythnos yn Oslo?

Cafodd Dr Mair, seicolegydd ymgynghorol Cinio Caru, ei geni yn y Waun a'i magu yn Llanarmon, Dyffryn Ceiriog a'r Henllan ger Dinbych; mae bellach yn byw ym Mangor. Mae'n gweithio ar ei liwt ei hun fel seicolegydd clinigol, gan arbenigo mewn gweithio gyda theuluoedd sydd 芒 phlant mewn trafferthion. Mae hefyd yn ddarlithydd er anrhydedd gyda'r Brifysgol ym Mangor. Dywed mai ei diddordebau yw cerddoriaeth o bob math, 'o Mozart i'r Manics' a 'gwylio pobol!'

Bydd Dr Mair yn cael digonedd o gyfle i wylio pobol yn ystod y gyfres hon! Dywed fod iaith y corff yn siarad cyfrolau.

"Er ein bod ni'n meddwl ein bod ni'n dibynnu ar wybodaeth lafar wrth gyfathrebu, mi rydan ni'n anifeiliaid, ac mae anifeiliaid yn dangos eu teimladau trwy symudiadau'r corff. Heb sylweddoli hynny, mi rydan ni'n arbennig o dda am ddarllen negeseuon corfforol rhywun arall. Mae llawer o waith ymchwil wedi ei wneud ar hyn ac mae'n debyg bod symudiadau bach cyflym yn dangos sut mae rhywun yn ymateb i berson arall.

"Wrth wylio'r rhai sy'n cymryd rhan yn Cinio Caru fe welwch chi fod cyswllt llygaid yn allweddol. Hefyd, edrychwch os ydyn nhw'n dynwared ei gilydd, fel petaen nhw'n edrych mewn drych. Mae hyn yn dangos eu bod nhw'n awyddus i blesio'r naill a'r llall. Os ydy braich yn mynd ar draws y corff, tydy hynny ddim yn arwydd da. Y pethau bach sy'n cyfri. Mae'n ddiddorol sylwi hefyd ar sut mae pobol yn ymddwyn pan maen nhw'n nerfus.

"Dwi'n meddwl y bydd rhai o'r cyfranwyr yn cael sioc wrth weld eu hunain ar y teledu, tydyn ni ddim wastad yn sylweddoli sut rydan ni'n ymddangos i berson arall. Efallai o weld eu hunain, bydd rhai ohonyn nhw yn sylwi ar bethe y medran nhw eu newid yn y ffordd maen nhw'n cyfathrebu!"

Cinio Caru Nos Fercher, 9 Mehefin,11.00pm, S4C digidol
Nos Wener, 11 Mehefin, 10.30pm, S4C


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud 芒 gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy