91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Hanes a natur - taith trwy amser ar hyd llwybr newydd yn Hen Golwyn
Cafwyd agoriad swyddogol rhan ddiweddaraf llwybr hanes a natur newydd sbon a fydd yn rhoi golwg newydd ar y gorffennol yn Hen Golwyn ar ddydd Gwener 21 Mai.
Cafodd llecyn ger y dref ei enwi'n Fairy Glen a'i droi'n atyniad i ymwelwyr, gan godi goleuadau bach lliwgar yno, dros 50 mlynedd yn 么l. Yn awr, mae'r lle wedi'i adfer i'w hen ogoniant, diolch i grant o 拢90,000 gan Cydcoed - Woods for All.

Mae Ffederasiwn Amgylcheddol Hen Golwyn, sy'n gweithio i adfywio'r dref, wedi troi cwm coediog Afon Colwyn yn adnodd gwerthfawr i'r gymuned unwaith eto.

Cynhaliwyd cyfarfod arbennig i agor Llwybr Natur a Hanes Hen Golwyn, sef llwybr dwy filltir sy'n ddolen gyswllt rhwng y Promen芒d, Gerddi Tan y Coed, hen bentref Llawr Pentre a'r Fairy Glen.

Torrwyd y rhuban i agor y llwybr yn swyddogol gan Lywydd y Ffederasiwn Thelma Roberts a Bob Griffiths o Cydcoed ac aethant ymlaen i arwain y criw cyntaf o bobl ar hyd y llwybr newydd.

"Mae'r llwybr newydd, a'i banelau dehongli, yn rhoi golwg i ni ar fyd natur a hanes yn yr ardal ac mae'n annog teuluoedd ac ymwelwyr i gerdded i'r Fairy Glen i weld y gwaith ardderchog a wnaed yno," meddai Thelma.

Llwyddwyd i gyflawni prosiect y Fairy Glen gan i'r cynllun gael grant 100 y cant gan Cydcoed, sef cynllun grantiau gwerth 拢16 miliwn gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru sy'n cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn 么l Swyddog Cydcoed, Bob Griffiths, sy'n gyfrifol am drefnu rhaglen Cydcoed yn y Gogledd: "Mae'r gymuned gyfan yn cefnogi'r prosiect hwn, a gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Tref Bae Colwyn, Princes Trust Cymru ac eraill, maent wedi gwneud gwaith ardderchog.

"Mae'r arian a gafwyd gan Cydcoed yn golygu y gellir rheoli'r safle er budd y gymuned, ac fel coetir ger y traeth y gall ymwelwyr ei fwynhau," meddai.


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud 芒 gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy