91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Mynd am dro i'r coed!
22 Ionawr 2004
Bydd trigolion Bae Cinmel yng Nghonwy yn brysur iawn dros y misoedd nesaf yn plannu coed ac yn dysgu am fywyd gwyllt yr ardal, o ganlyniad i grant y loteri gan y Gronfa Cyfleoedd Newydd.

Dyfarnwyd 拢100,000 i'r prosiect Coetir Cymunedol (Community Woodland) i drawsnewid darn o dir diffaith chwe acer yn safle coetir a bywyd gwyllt a fydd yn cynnwys cae chwarae, ardal picnic a thrac BMX, a bydd pobl leol yn derbyn hyfforddiant i'w helpu i ymgymryd 芒'r gwaith.

Dyrannodd rhaglen Trawsnewid eich Gofod y Gronfa Cyfleoedd Newydd o leiaf 拢100,000 i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru i'w wario ar un prosiect sy'n dangos i'r gymuned sut i wella safon eu bywydau gan amddiffyn adnoddau'r blaned, nawr ac yn y dyfodol.

Arweinir y prosiect ei hun gan yr Awdurdod Lleol ond soniodd y Cynghorydd Ronnie Hughes, Arweinydd Cyngor Conwy am bwysigrwydd y bartneriaeth a arweiniodd at y cais llwyddiannus: "Dyfarnwyd yr arian ei hun i'r Awdurdod Lleol gan ein bod yn brif bartner, ond yr agwedd hollbwysig yn fan hyn yw bod y datblygodd y prosiect yn sg卯l anghenion y bobl leol.

"Eu gweledigaeth hwy sy'n cael ei wobrwyo a'u hanghenion hwy a fydd yn cael eu diwallu gan y datblygiad cynhyrfus hwn. Alla i ddim disgwyl i weld y cynlluniau rwyf wedi'u gweld ar bapur yn cael eu gwireddu yn ystod y ddwy flynedd nesaf."

Paul Martin yw Cydlynydd Cymunedaun Gyntaf yng Nghonwy ac maen egluro sut bu'r preswylwyr yn cymryd rhan yn y broses gynllunio: "Er mwyn sicrhau yr aed i'r afael ag anghenion y gymuned gwahoddwyd yr holl breswylwyr yn Heol Gaer i ddiwrnod ymgynghori lle cynigwyd a thrafodwyd syniadau.

"Yna gwahoddwyd BTCV i lunio cynllun manwl yn cynnwys syniadau'r gymuned ac yna gwahoddwyd preswylwyr i roi eu sylwadau ac i sicrhau eu bod yn clymu gydar hyn yr oedd arnynt ei angen. Bydd yr arian hwn ar gwaith dilynol yn hwb mawr i'r gymuned."

Bydd ysgolion lleol hefyd yn cymryd rhan yn y broses a bydd plant ysgol yn brysur yn ymchwilio i hanes lleol a bydd y wybodaeth yma yn ganolog ir datblygiad newydd.

Mae'r rhaglen Cyfleoedd Newydd ar gyfer Trawsnewid eich Gofod yn gwario 拢3.25 miliwn ar draws Cymru i gefnogi prosiectau sy'n enghreifftiau ymarferol o'r holl arferion datblygu cynaliadwy hyn a mwy.

Eglura Tom Davies, Aelod o Fwrdd y Gronfa, gefndir y rhaglen: "Prif nod y rhaglen ariannu hon yw hybu'r ddealltwriaeth o ddatblygu cynaliadwy ac i sylweddoli sut y gallwn amddiffyn adnoddau ein planed. Yn bwysicaf oll rhaid cyflawni hyn gyda'r gymuned yn cymryd rhan.

"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut mae cynnwys y trigolion lleol wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ymarferol i'w cymuned.

Cyswllt y Wasg: i gael mwy o wybodaeth cysylltwch 芒 Deian Creunant, 01686 611705 / 07855 276740

Cronfa Cyfleoedd Newydd


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud 芒 gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy