91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pigion
Gl枚ynnod byw ar flodyn buddlea Bywyd gwyllt yn ennill gwobrau
Er mwyn annog garddwyr Eryri i ddenu mwy o fywyd gwyllt i'w gerddi, cynigir 拢400 mewn cystadleuaeth sy'n chwilio am "Yr Ardd Bywyd Gwyllt Orau yn Eryri"
Dechreuodd yr ymgyrch i ddenu mwy o adar, ieir bach yr haf, draenogod, a chreaduriaid eraill i erddi Eryri ym mis Awst 2002, a'i fwriad yw rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd am ffyrdd a fydd yn eu galluogi i helpu gwarchod a datblygu bioamrywiaeth Eryri yn eu gerddi. Fel rhan o'r ymgyrch, mae Partneriaeth Garddio Bywyd Gwyllt Eryri yn cynnal cystadleuaeth, a fydd yn gwahodd unigolion, cymunedau, ysgolion a busnesau i gystadlu am wobr o 拢200 ym mhob categori a gwobr ychwanegol o 拢200 am yr 'Ardd Bywyd Gwyllt Orau yn Eryri'.

Dywedodd Anna Williams, y swyddog project a benodwyd yn ddiweddar: "Mae'n bleser gweld pobl yn gwneud ymdrech i ddenu bywyd gwyllt i'w gerddi, a rhai dulliau syml o wneud hynny yw trwy dyfu planhigion llawn neithdar ar gyfer gl枚ynnod byw, llwyni llawn mwyar ar gyfer adar, gwneud eich compost eich hun, gosod blychau adar a blychau ystlumod a defnyddio llai o blaladdwyr yn eich gardd. Gweithiwch law yn llaw 芒 natur, gwyliwch natur, ymlaciwch a gobeithio y llwyddwch i fwynhau nifer fawr o ymwelwyr i'ch lloches dawel".

Dyddiad cau y gystadleuaeth eleni yw 18 Mehefin ac fe gynhelir y seremoni wobrwyo ar 14 Gorffennaf ym Mhortmeirion. Y beirniaid fydd Nigel Brown, Gerddi Treborth (Prifysgol Cymru), Anna Williams (Partneriaeth Garddio Bywyd Gwyllt Eryri), Rod Gritten a Kate Williamson (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri), Aisling Carrick, (Cyngor Gwynedd) a Becky Groves, (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy).

Am ragor o fanylion am y gystadleuaeth, cysylltwch ag Anna Williams ar 01766-770274 neu Anna.Williams@eryri-npa.gov.uk.

Parc Cenedlaethol Eryri


Datganiadau i'r wasg gan sefydliadau allanol yn ymwneud 芒 gogledd orllewin Cymru yw'r rhain. Barn a geiriad y corff a gynhyrchodd y datganiad yn unig a geir yma.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy