91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
Cynfal-fawr - cartref Morgan Llwyd
Morgan Llwyd

Ganwyd: 1619

Magwyd: Cynfal-fawr, ger Maentwrog, Sir Feirionnydd

Addysg: Wrecsam


Awdur piwritainaidd

Awdur Piwritanaidd oedd Morgan Llwyd, ac un o feistri rhyddiaith Gymraeg yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Credai bod Crist, 'y pumed Brenin', ar fin dychwelyd i'r ddaear i deyrnasu am fil o flynyddoedd.

Roedd oblygiadau crefyddol a chymdeithasol i'r milenariaeth hwn, er bod Llwyd wedi cilio i fyd mewnol duwioldeb personol dwfn erbyn diwedd ei oes.

Fe'i ganwyd yng Nghynfal-fawr, ger Maentwrog yn Sir Feirionnydd, ym 1619; mae plac ar y wal yn coffhau ei enedigaeth yn y t欧.

Cafodd ei addysg yn Wrecsam, lle gafodd dr枚edigaeth drwy gyfrwng Walter Cradock; sefydlodd y ddau yr eglwys gynulleidfaol Gymreig gyntaf yn Llanfaches, yn Sir Fynwy, ym 1639.

Profiadau rhyfel

Pan ddaeth y Rhyfel Cartref, ffodd pobl Llanfaches i Fryste ac yna, ym 1642, i Lundain, ac ymunodd Llwyd 芒 byddin y Senedd yn gaplan, gan weld ymladd ar draws de Lloegr.

Wedi'r rhyfel, fe'i anfonwyd gan y Senedd i Ogledd Cymru yn bregethwr teithiol, ac ymsefydlodd yn Wrecsam.

O 1650 hyd 1653 yr oedd yn Brofwr dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru, a olygai ei fod yn gyfrifol am ddod o hyd i weinidogion addas i gymryd lle'r rhai a gawsai eu diswyddo.

Ym 1659, o dan yr Eglwys Wladwriaethol a sefydlwyd yn ystod y Gymanwlad, gwasanaethodd yn weinidog eglwys plwyf Wrecsam.

Paratoi at yr Ail Ddyfodiad

Er gwaethaf helbul ei yrfa, a'r ffaith fod ganddo wraig a thua dwsin o blant, roedd Morgan Llwyd yn awdur cynhyrchiol iawn. Ysgrifennodd wyth o weithiau yn y Gymraeg a thri yn Saesneg.

Ymhlith y pwysicaf yw Llythyr ir Cymru Cariadus (1653), a gyfansoddwyd i baratoi ei gyd-wladwyr ar gyfer ailddyfodiad Crist i deyrnasu ar y ddaear fel Brenin a Barnwr.

Er gwaethaf ei gynnwys astrus ar adegau, mae'r llyfr yn enghraifft da o ryddiaith Gymraeg ar ei orau.

Yr un thema sydd i Llyfr y Tri Aderyn, a gyhoeddwyd yn yr un flwyddyn; iddo ef roedd Senedd y Saint, a gynhaliwyd ym 1653, yn arwydd fod yr ailddyfodiad wrth law.

Y tri aderyn yw yr Eryr, sy'n cynrychioli'r gallu gwladol neu'r ymofynydd am iachawdwriaeth, y Golomen sydd yn sefyll am y Piwrtitaniaid neu y sant, a'r Gigfran sydd yn cynrychioli'r Brenhinwyr neu y anghrediniwr.

Tua diwedd y llyfr mae'r awdur yn rhoi cipolwg anuniongyrchol ar ei hynt ysbrydol ei hun, ac mae'r cyfan yn ymgais i esbonio cyfundrefn feddyliol yr awdur.

Y dystiolaeth fewnol

Y dylanwad mwyaf arno oedd y cyfrinydd Lutheraidd Jakob B枚hme. Ym marn y ddau roedd Duw yn llefaru yng nghalon pob unigolyn, 'yr ystafell ddirgel', ac nid oedd yn rhaid i ddyn wneud dim ond gwrando ac ufuddhau.

Yn bregethwr huawdl yn Gymraeg a Saesneg, roedd gan Morgan Llwyd ddull hynod rethregol, yn cynnwys rhythmau'r Beibl Cymraeg, ac mae'n defnyddio diarhebion Cymraeg yn fynych.

Roedd yn feistr ar y clasuron ac ar traddodiad barddol yr oesoedd canol diweddar yng Nghymru.

Bu farw ym 1659; mae ei fedd ym mynwent Rhos-ddu yn Wrecsam, lle gwelir cof-golofn hefyd (cafodd ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf bwrdeistref Wrecsam ei henwi ar 么l Morgan Llwyd: agorwyd yn 1960au).

Meic Stephens


Cyfrannwch

ric o Lindain
Mae Huw Llwyd wedi'n byw hefyd yn Gynval Fawr


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy