91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Manon Ellis
Manon Ellis

Magwyd: Yr Wyddgrug a wedyn Llandyrnog

Addysg: Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug, Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych ac Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.


Actores

Ganed Manon Elis yn Yr Wyddgrug a threuliodd ei blynyddoedd cynharaf yno cyn i'r teulu symud i Landyrnog ger Dinbych. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug, Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych ac Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Aeth i Goleg Prifysgol Bangor cyn symud ymlaen i Goleg Cerdd a Drama, Caerdydd ble y graddiodd yn 1998.

Bu'n byw yng Nghaerdydd am bedair blynedd ar 么l graddio cyn symud yn 么l i'r gogledd ac ymgartrefu yn ardal Caernarfon lle mae'n byw yno bellach ers pum mlynedd.

Ei rhan actio gyntaf ar 么l graddio oedd Gwenhwyfar yn y pantomeim 'Ogo Ogo Pogo'. Aeth ymlaen i chwarae'r rhan Wendy yn y gyfres Amdani. Yn ystod ei gyrfa mae wedi bod yn rhan o gynhyrchiadau 'Amadeus', a 'Ffrwd Ceinwen' i gwmni Theatr Gwynedd. Mae hi wedi gwneud tair drama ar gyfer S4C digidol.

Erbyn hyn rydym yn hen gyfarwydd 芒'i gweld hi mewn sgertiau cwta a'i wyneb yn gacen o golur fel y gegog Michelle ar Rownd a Rownd.

Meddai "Mae'n bleser pur cael chwarae'r cymeriad Michelle, gan fy mod wrth fy modd yn cael chwarae rhywun sydd mor wahanol i mi."

Yn ei hamser sb芒r ei diddordeb pennaf yw cerdded ac mae wrth ei bodd yn crwydro bryniau Dyffryn Clwyd.

Ymunodd 芒'r Urdd yn ifanc iawn a chystadlu'n llwyddiannus ar y cystadlaethau llefaru yn yr Eisteddfod a mynd ymlaen i ennill Ysgoloriaeth Llwyd o'r Bryn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Roedd y profiad o gystadlu yn yr Urdd yn un gwerthfawr iawn...Yn ddi-os, oherwydd y cystadlu, a ddechreuodd yn yr Urdd, y cefais i'r awch a'r hyder i fod yn actores," meddai.

"Mae'r Eisteddfod yn brofiad ffantastig i'r plant ac yn adloniant arbennig i bawb arall. Mae tueddiad ganddo ni fel Cymry i gymryd yr Eisteddfod yn ganiataol, gan beidio sylweddoli pa mor unigryw ydi hi.

"Hoffwn ddiolch i'r Urdd, gan fy mod, drwy'r cystadlu a'r gwersyll yng Nglan-llyn, wedi gwneud gymaint o ffrindiau da tros y blynyddoedd gyda phobl na fyddwn wedi cael y cyfle i'w cyfarfod oni bai am yr Urdd," ychwanegodd.

Manon Ellis: Llywydd y dydd (dydd Mercher), yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych, 2006. Darparwyd y wybodaeth uchod gan Urdd Gobaith Cymru.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy