91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abertawe
Heather Williams Llysgenad Ifanc y Llewod
Yn 2006 llwyddodd Heather Williams o'r Alltwen ger Bontardawe i dderbyn Gwobr Llysgenad Ifanc y Llewod. Yma mae'n olrhain sut gafodd ei dewis.

"Yn 2005 daeth Mr Colin Evans Pennaeth Chweched Ysgol Gyfun Ystalyfera lan atai a gofyn os oeddwn i'n gwybod rhywbeth am Glwb y Llewod. Roeddwn i'n gwybod eu bod nhw'n helpu pobl ar draws y byd, ac fe ddes i hefyd i wybod mai y Llewod oedd y cwmni cyntaf i fynd mas i helpu pobl gyda'r Tsunami n么l yn 2004.

"Dywedodd Mr Evans ei fod am fy enwebu ar gyfer y wobr flynyddol - Llysgenad ifanc Clwb y Llewod. Caiff y wobr ei roi i unigolyn sy'n helpu pobl yn y gymuned ac yn gwneud lot o waith yn lleol.

"Chwech mis yn ddiweddarach daeth Mr Evans ataf a dweud fod angen i mi fynd i Glwb Llewod Rhydaman i roi cyfweliad bach o flaen t卯m o feirniaid yn amlinellu'r hyn rwy'n ei wneud yn y gymuned. Roedd 5 neu 6 ohono ni yna, ac fe enilles i y rownd yna! Ges i 拢100 ac fe benderfynes i roi'r arian hwnnw tuag at Gymorth Cristnogol, gan fy mod ynghlwm gyda'r Capel yma yn Alltwen.

"O ganlyniad i ennill y rownd yna fe es i ymlaen i'r rownd ranbarthol. Cafodd hwn ei gynnal yng Nghasnewydd n么l yn Ionawr 2006. Ces i fy nghyfweld unwaith yn rhagor o flaen t卯m o feirniaid, ond y tro yma roedd yn rhaid i mi baratoi cyflwyniad power point hefyd gan amlinellu a disgrifio'r hyn roeddwn i'n ei wneud yn lleol. Fe enilles i'r rownd honno hefyd, a'r tro yma fe ges i 拢500. Fe wnes i benderfynu rhannu'r arian fel a ganlyn:

"拢100 i Ap锚l Pontardawe ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006; 拢100 i Gymorth Cristnogol; 拢150 i Glwb Gateway yng Nghastell-nedd gan eu bod yn helpu pobl efo Down Syndroms a Cerebral Palsy (Mae gen i gefnder sydd ynghlwm 芒'r clwb); a 拢150 i Ap锚l Ysgol Gyfun Ystalyfera i anfon nwyddau i Gartref Plant Amddifad yn Ecuador. Yn 2005 fe es i ar alldaith mas i Ecuador a tra oeddwn i yno roeddwn i'n gweithio gyda th卯m Cartref Plant Amddifad.

"Doedd braidd dim 'da nhw; dim cyllyll a ffyrc, dim nwyddau golchi ayb. Yr unig bethau oedd 'da nhw oedd y dillad roedden nhw yn ei wisgo, gwely, papur a phensil. Roedd hyn wedi cael y fath effaith arno ni fel pan ddaetho ni gartref fe benderfyno ni fel tim i godi arian i hala nwyddau angenrheidiol mas 'na. Aeth y lot cyntaf mas fis Ebrill 2006.

Helpu yn y gymuned
Heather Williams o flaen y capel"Dwi wrth fy modd yn helpu yn y gymuned. Dwi'n helpu yn y Capel, yn paratoi a threfnu gwasanaethau i'r plant. Nes i hefyd helpu gyda'r gwasanaeth Nadolig, a gan fy mod i'n chwarae'r piano dwi'n gallu cyfeilio i'r emynau.

"Yn ogystal 芒 helpu yn y capel, rwyf yn helpu gyda Ysgol Gynradd y Wern yn fy ngwersi rhydd. Yno, rwy'n helpu gyda gwersi Mathemateg, darllen a Cherddoriaeth. Hefyd, gan fy mod i wedi cyrraedd gradd 8 ar y piano a'r ffidil, rwyf nawr yn rhoi gwersi i blant lleol ac ar hyn o bryd rydw i'n helpu gyda 'Clydach Operatic Society' gyda'i ymarferion nhw o 'Return to the Forbidden Planet' sy'n cael ei berfformio ym Mhontardawe wythnos cyntaf o fis Mai, 2006.

"O ganlyniad i ennill y wobr yma ges i gwpan mawr yn ogystal 芒 gwyliau i unrhyw le yn Ewrop. Dwi'm yn siwr ble i fynd eto ond ar hyn o bryd dwi eisiau mynd i Ynys Corsica, ond falle fydd hynny'n newid!"

Gan: Heather Williams

Bu Heather Williams ar fws 91福利社 Cymru pan oedd ar ymweliad 芒'r Alltwen yn Ebrill 2006. Cliciwch yma i ddarllen mwy am fws 91福利社 Cymru a sut medrwch chi gyfrannu.

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Bws 91福利社 Cymru
Lluniau
Digwyddiadau


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy