91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
John Ormond
John Ormond

Ganwyd: 1923

Magwyd: Dyfnant ger Abertawe

Addysg: Coleg y Brifysgol Abertawe


Bardd, newyddiadurwr a gwneuthurwr ffilmiau

Un o feirdd galluocaf ei genhedlaeth oedd John Ormond. Cymharol fechan yw ei gynnyrch fel bardd ond mae ei le ymhlith beirdd gorau Cymru yn yr iaith Saesneg yn sicr.

Roedd yn frodor o Ddyfnant ger Abertawe, lle ganwyd ef ym 1923 yn fab i grydd y pentref.

Aeth i Goleg y Brifysgol Abertawe i ddarllen Saesneg ac Athroniaeth cyn ymuno 芒 staff y cylchgrawn poblogaidd Picture Post ym 1945.

Ymddangosodd ei gerddi cynnar - dan yr enw John Ormond Thomas - yn y gyfrol Indications ym 1943 gyda rhai James Kirkup a John Bayliss.

John Ormond wrth ei ddesg yn ddyn ifanc.Wedi gofyn am gyngor y bardd Vernon Watkins am ansawdd ei waith, fe ddinistriodd y rhan fwyaf o'i gerddi a phenderfynu peidio cyhoeddi rhagor nes ei fod yn 30 oed.

O ganlyniad, aeth yn rhy hunan-feirniadol o'i dalent, ac ni ysgrifennodd ragor am rai blynyddoedd.

Gyrfa newyddiadurol

Ym 1949 dychwelodd i Abertawe i weithio ar staff yr Evening Post, a throi'n newyddiadurwr abl dros ben.

Tua wyth mlynedd yn ddiweddarach dechreuodd ar yrfa newydd fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau dogfen gyda'r 91福利社.

Gwnaeth nifer sylweddol o ffilmiau adnabyddus sy'n uchel iawn eu parch, megis y rheiny am Ceri Richards, Dylan Thomas, Alun Lewis ac R. S. Thomas.

Treuliodd weddill ei oes yng Nghaerdydd; gwelir plac ar ei d欧 yn Heol Conway, Pontcanna.

Ail-ddechreuodd farddoni yng nghanol y 'chwedegau, pan oedd yn 43 oed, gan gyhoeddi ei waith yn Poetry Wales yn bennaf.

Y mae ei gyfrol gyntaf, Requiem and Celebration (1969), yn cynnwys y cerddi a ysgrifennwyd dros gyfnod o bum mlynedd ar hugain; mae'n cynnwys y gerdd hir 'City of Fire and Snow', er cof am yr hen Abertawe a ddinistriwyd gan fomiau Almaeneg yng ngaeaf 1941.

Fe'i dilynwyd gan Definition of a Waterfall (1973), casgliad a gadarnhaodd ei enw fel bardd aeddfed gyda'i lais ei hun.

Diddordeb yn ei wreiddiau

Mae nifer fawr o gerddi John Ormond yn archwilio ei wreiddiau yn Nyfnant ac yn ymboeni ynglyn 芒 thylwyth a bro, gyda'r elfen weledol yn gryf iawn ynddynt.

Mae rhai eraill yn rhoi pwyslais ar fyd natur a harddwch bywyd gwyllt, fel y gerdd hyfryd 'Salmon'.

Marwnadol oedd tueddiad ei gerddi gorau, rhyw fath o ddathliad o'r daioni mewn dynolryw, ond heb fod yn or-sentimental neu'n ffug mewn unrhyw fodd.

Mae nifer ohonynt yn llawn eironi ac arabedd, yn hunandybus ac yn llawenhau ym mharadocs bywyd.

Ond y brif nodwedd yw eu saern茂aeth feistrolgar a'u synwyrusrwydd geiriol.

Nid oedd yn fardd a oedd yn fodlon derbyn atebion hawdd ac mae integriti ei waith wastad yn amlwg.

Ceir detholiad o'i gerddi, gyda rhai Emyr Humphreys a John Tripp, yn Penguin Modern Poets 27 (1978), yn ei Selected Poems (1987), ac yn y gyfrol hardd a gyhoeddwyd gan Wasg Gregynog ym 1991, sef Cathedral Builders, cyfrol 芒 theitl un o'i gerddi mwyaf adnabyddus.

Mae'r gyfrol olaf yn cynnwys nifer o gerddi am yr Eidal, lle oedd yn hapus yn ystod ei flynyddoedd olaf.

Pan oedd pentrefwyr Cortona yn holi am ei waith, roedd yn arfer ateb, 'Sono po猫ta', gan ei fod yn falch iawn o'i alwedigaeth fel prydydd. Bu farw ym 1990.

Meic Stephens


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy