91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
John Rhys-Davies
John Rhys-Davies

Ganwyd: 5 Mai 1944

Magwyd: Wiltshire, ond treuliodd lot o'i blentyndod yn Rhydaman.


Ei berfformiadau cofiadwy o gymeriadau mewn ffilmiau megis 'The Lord of the Ring' a 'Raiders of the Lost Ark'

Er gwybodaeth: Pan chwaraeodd y cymeriad Gimli yn 'The Lord of the Rings' roedd ei wisg yn pwyso dros 40 kilogram ac roedd angen help gan dau berson i'w rhoi e ymlaen!

Bywgraffiad:
Treuliodd John Rhys-Davies ran mawr o'i blentyndod yn Rhydaman - man geni ei fam. Cymerodd ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth glasurol yn ifanc iawn a credai mai'r diddordeb hwn arweiniodd i'w benderfyniad i fod yn actor ac yn awdur.

Yn bymtheg oed perfformiodd r么l Shakesperaidd am y tro cyntaf a rhoddodd y profiad hwn sicrwydd iddo mae ar y llwyfan yr oedd ei ddyfodol.

Wedi iddo adael yr ysgol mynychodd Prifysgol Dwyrain Anglia yn Norwich lle astudiodd Saesneg. Ar 么l graddio fe aeth i Lundain, lle y'i derbyniwyd fel myfyriwr yn Academi Brenhinol y Celfyddydau Dramatig. Wedi iddo orffen astudio fe ddaeth yn actor cymeriad profiadol sydd bellach wedi ymddangos mewn dros 80 o ffilmiau.

Un o uchafbwyntiau diweddar ei yrfa hir oedd chwarae rhan y corrach Gimli yn yr addasiad i ffilm o'r llyfr enwog 'The Lord of the Rings' gan J.R.R.Tolkien. Roedd chwarae'r r么l hon yn golygu fod Rhys-Davies yn gorfod treulio pump awr yn cael ei goluro. Cafodd ei ffilmio yn Seland Newydd gyda Peter Jackson yn ei gyfarwyddo. Rhyddhawyd 'The Fellowship of the Ring', y ffilm cyntaf mewn cyfres o dri, yn 2001, ac fe'i ddilynwyd gan 'The Two Towers' a 'The Return of the King'.

Cyn ymddangos yn y ffilmiau hyn, mae'n si诺r mai'r rhan amlycaf mae Rhys-Davies wedi ei gael mewn ffilm oedd ei gymeriad yn 'Raiders of the Lost Ark' a 'Indiana Jones and the Last Crusade'. Yn y ffilmiau hyn cafodd y cyfle i weithio gyda'r actorion enwog Harrison Ford a Sean Connery.

Mae'r ffilmiau eraill yr ymddangosodd ynddynt yn cynnwys 'Victor, Victoria', 'The Living Daylights' a 'King Solomon's Mines'.

Yn ogystal 芒 hyn, mae hefyd wedi cael tipyn o sylw oherwydd ei berfformiadau ar y sgr卯n fach gan gynnwys chwarae 'Yr Athro Maximilian P. Arturo' yn y gyfres deledu boblogaidd 'Sliders' ac am ymddangos sawl tro ar 'Star Trek: Voyager' yn chwarae cymeriad Leonardo da Vinci.

Mae ymddangosiadau eraill ar y teledu yn cynnwys 'Shogun' a 'Noble House' gan James Clavell, 'Great Expectations', 'War and Rememberance' ac 'Archaeology'.

Oherwydd ei waith, mae Rhys-Davies wedi sefydlu ei hun yn Los Angeles, gan dreulio dipyn o amser hefyd ar yr Isle of Man. Mae'n casglu ceir ac mae hefyd ganddo drwydded fel peilot.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy