91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Digwyddiadau
Bwyd yn ystod Diwali G诺yl Hindwaidd
Does dim sy'n fwy lliwgar na digwyddiad cymdeithasol yng nghalendr y gymuned Asiaidd. A'r mwyaf arbennig o'r rhain yw'r diwrnod sy'n nodi blwyddyn newydd yr Hindwiaid, sef Diwali.
Ac ar y diwrnod arbennig hwn ar 29 Hydref, fe gafwyd gwledd o ddathlu a lliw yn nheml Shree Swaminarayan yn Grangetown yn y brifddinas.

Holl bwrpas yr 诺yl hynafol yw dathlu a diolch am oleuni a chyfoeth. Mae'r traddodiad hwn yn dyddio n么l i adeg pan fyddai amaethwyr yn tyfu cnydau ac yn dathlu diwedd y cynhaeaf gyda phryd arbennig o fwyd.

Wrth fentro i'r deml fawr ddeniadol hon ar gyrion y ddinas, roedd naws hudolus yn perthyn iddi, er ei bod hi ar stryd ddigon cyffredin. Ar yr olwg, roedd hi'n adeilad arferol heb fawr o urddas yn perthyn iddi. O edrych yn fanylach, ac ychydig i'r awyr, roedd modd gweld tair cromen ar ben yr adeilad. A'r rhain sy'n ei gwneud hi'n adeilad mor arbennig. Hon yw'r gyntaf o'i math yng Nghymru.

A chyn ddoe, dyna'r cyfan a welais i erioed o unrhyw deml Hindwaidd. Roedd y cyffro'n cynyddu ac yn cynyddu wrth fentro trwy'r drws a chamu i gyntedd fawr agored, a murluniau o'm cwmpas. Yna, draw i'r ardal tynnu esgidiau. Mae hon yn ddefod angenrheidiol i'r crefydd Hindwaidd. Ac felly, mentro trwy'r drws yn fy hosannau. A chael fy ngwrthod. Ond pam?

Buan y sylweddolais i fod yna ddau ddrws yn mynd i'r brif neuadd. Un i'r dynion ac un i'r menywod. Fe ges i esboniad o hyn gan un o'r addolwyr. Rhan bwysig o'r crefydd yw ffocysu'r meddwl cyn mynd i wedd茂o, ac felly, byddai cymysgu gyda menywod (neu ddynion o safbwynt menywod) yn esgor ar feddylfryd o chwant. Cyn gwedd茂o, rhaid gwaredu ar syniadau chwantus, cenfigennus a barus. I mewn 芒 fi, wrth fy modd gyda'r esboniad.

fgh

Roeddwn i'n gegrwth wrth fentro i'r neuadd fawr a gweld yr holl liw. I'r chwith, roedd yr allor fawr yn llawn ffrwythau, llysiau a chacennau o bob lliw. Roedd yr olygfa'n debyg i ffilm Bollywood ystrydebol. Ond nid ystrydeb oedd yr holl liw, wedi'r cyfan.

Yn gefndir i'r lliwiau llachar a'r oglau hyfryd yn dod o gyfeiriad yr allor, roedd yna gr诺p o gerddorion talentog yn gyfeiliant i'r ysgrythurau a oedd yn cael eu llafarganu.

O dro i dro, byddai'r gynulleidfa'n ymuno yn y llafarganu i ddiolch i Swaminarayan a Lakshmi, dau o dduwiau pwysicaf y crefydd. Fel y soniais eisoes, mae gwedd茂o a'r dull o wedd茂o yn sylfaenol i'r ffydd Hindwaidd. Yn ystod y seremon茂au a'r anerchiadau, cafwyd cyflwyniad gan rai o blant y deml.

Mae'r dull arferol o wedd茂o yn golygu gorwedd ar lawr, gydag wyth rhan o'r corff yn cyffwrdd 芒'r llawr - y dwylo, y ddau benelin, y pengliniau a'r traed. Mae'r cyfan yn dechrau ar gerdded, wedyn gorwedd ac ailadrodd y broses hon hyd nes y bydd holl egni'r corff wedi ei ildio i'r Arglwydd.

Roedd yn well gan ryw rai gerdded o amgylch yr allor, yn rhoi egni i'r holl arglwyddi yr oedd modelau ohonynt arni. Yn ystod y cyfnod o 'raas', sef gweddi bersonol, roedd un o ffyddloniaid y deml wedi ymroi yn llwyr wrth gerdded o amgylch yr allor am dri chwarter awr yn ddi-derfyn. Ar ochr arall y neuadd, roedd y menywod yn cyd-wedd茂o wrth gerdded law yn llaw mewn cylch o amgylch canwyllau.

Fe ddaeth Prif Weinidog Cymru i ymuno yn y dathliadau, gan gyflwyno rhoddion i'r bechgyn a fu wrthi'n dysgu mamiaith eu cyndadau, Gujurati.

Fel rhan o'r grant a dderbyniodd y deml ddwy flynedd yn 么l gan y Cynulliad, fe ddechreuwyd cynnig y gwersi, wrth agor cyfleusterau'r addoldy i'r gymuned.

Fe dderbyniodd y merched eu rhoddion gan y Cynghorydd lleol, Francesca Montemaggi yr ochr arall i'r rhaniad yn yr ystafell. Fe gafodd y ddau 'bindi' coch ar eu pennau wrth fentro i'r deml, yn ogystal 芒 garlant o flodau melyn o amgylch eu gyddfau.

Yn ei araith, fe bwysleisiodd Prif Weinidog Cymru bwysigrwydd bywyd aml-ddiwylliannol yng Nghymru, a gwerthfawrogi diwylliannau eraill. Meddai, "Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni bara i sefydlu ac i gadarnhau'r egwyddor ein bod ni i gyd yn gallu mwynhau gwyliau crefyddol a chymunedol sydd gyda ni yng Nghymru nawr".

Fe dynnodd ar y tebygrwydd hefyd rhwng y diwylliant Cymreig ac Asiaidd, gan gofio'n 么l at ddechreuadau addysg Gymraeg dri chwarter canrif yn 么l.

"Mae'n od bod yna'r parallel gyda'r ffordd ddechreuodd addysg Gymraeg a dechrau sefydlu'r gwersi Gujurati yma yn y deml i'r plant ifanc yn Grangetown i gael dysgu am eu treftadaeth".

Fe fwynhaodd y gwahoddedigion wledd o gerddoriaeth a dawns, wrth i'r bechgyn ifanc arddangos dawns draddodiadol o ranbarth Kutch yn yr India i gyfeiliant drymiau ac offerynnau taro Asiaidd.

Yn ystod yr 'Aarti', sef cyfnod o ddiolchgarwch i'r Arglwydd Lakshmi, fe aeth plat arian o amgylch y neuadd, ac fe berfformiwyd y ddefod o fendithio'r holl gynulleidfa drwy wasgaru'r fflamau'n symbolaidd uwch eu pennau. Ar ddiwedd y ddefod, ailadroddwyd y cyfan o flaen yr arglwyddi i'w bendithio hwythau.

Ac mewn unrhyw ddigwyddiad cymdeithasol Asiaidd, mae'r arlwy o fwyd yn syfrdanol. A doedd y digwyddiad hwn yn ddim gwahanol. Fe baratowyd platiau enfawr o fwyd i'r sawl a oedd wedi aros am y 'pooja' ar ddiwedd y noson, gyda llu o ddanteithion melys a sawrus a oedd yn fwy o wledd na honno i borthi'r pum mil.

Gyda'r holl ddefodau crefyddol ar ben, y cyfan a oedd ar 么l oedd y t芒n gwyllt. Doedd y tywydd garw ddim yn ddigon i wlychu brwdfrydedd y gynulleidfa, gyda rhai yn mentro allan, a'r gweddill yn aros yn y brif neuadd i edrych drwy'r ffenest. Roedd y cylchoedd t芒n cochion a gwyrddion yn weladwy am filltiroedd o amgylch y deml.

Diwrnod cofiadwy iawn oedd hwn, ac mae'n si诺r y bydda i'n awyddus i ddathlu Diwali unwaith yn rhagor y flwyddyn nesaf. Diwali Hapus a Blwyddyn Newydd Dda 2065 i bawb!



Lluniau
Radio Cymru
Caerdydd


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy