91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
Rhydwen Williams
Rhydwen Williams

Ganwyd: 1916

Magwyd: Y Pentre, Cwm Rhondda

Addysg: Colegau Prifysgol Cymru Abertawe a Bangor


Bardd a nofelydd

Bardd a nofelydd oedd Rhydwen Williams, un o'r llenorion mwyaf lliwgar a hoffus a gynhyrchwyd gan gwm Rhondda erioed.

Os yw hi'n wir ei fod yn afradlon gyda'i dalentau, mefais 芒'i arian, dyfal fu ei ymdrechion i ddisgrifio ei brofiadau amryfal mewn barddoniaeth a rhyddiaith hyd eithaf ei alluoedd.

Ganwyd ef yn Y Pentre, Cwm Rhondda, ym 1916, a'i fagu yno mewn cartref a chapel Cymraeg.

Ond symudodd ei deulu i Gaer ar ei bymthegfed pen blwydd, a chafodd y diwreiddio hyn effaith andwyol ar ei lencyndod.

Fe drodd yn dipyn o rebel, gan weithio mewn siop a swyddfa cyn mynd i Golegau Prifysgol Cymru yn Abertawe a Bangor.

Gwrthwynebydd cydwybodol

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n wrthwynebydd ar dir Cenedlaetholdeb Cymreig ac aeth i weithio mewn uned ambiwlans.

Wedi'r rhyfel, dychwelodd i'r Rhondda a mynd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Ynys-hir, lle daeth yn gyfaill i J. Kitchener Davies ac yn aelod o Gylch Cadwgan.

Ymddiswyddodd o'r weinidogaeth pan ymunodd 芒 Theledu Granada lle cafodd gyfle i arddel ei ddoniau fel awdur ac actor.

Ennill y Goron

Daeth Rhydwen Williams i fri fel bardd pan ennillodd y Goron yn Eisteddfod 1946 gyda'r awdl 'Yr Arloeswr' (sef J. Kitchener Davies), camp a gyflawnodd drachefn ym 1964 gyda 'Ffynhonnau'.

Aeth ymlaen i gyhoeddi saith cyfrol o farddoniaeth: Barddoniaeth (1964), Y Ffynhonnau (1970), Y Chwyldro Gwyrdd (1972), Ystlumod (1977), Dei Gratia (1984), Ys Gwn I (1986) a Pedwarawd (1986); casglwyd ei holl gerddi yn y gyfrol swmpus Barddoniaeth Rhydwen Williams 1941-1991 (1991).

Nofelydd toreithiog

Fel nofelydd roedd yn llawn mor gynhyrchiol, er nad yw ei nofelau wedi ennill llawer o glod gan y beirniaid.

Maent yn cynnwys Y Briodas (1969), Y Si么l Wen (1970) a Dyddiau Dyn (1973), sy'n ymgais i gofnodi hanes ei deulu yn y Rhondda a hanes y cwm ei hun: dyma ei ryddiaith fwyaf llwydddiannus, yn ddi-os.

Cyhoeddodd hefyd Breuddwyd Rhonabwy Jones (1972) sy'n dychanu Gorsedd y Beirdd, Apolo (1975) sy'n cael hwyl ar draul byd y teledu, Amser i Wylo (1986) sy'n adrodd hanes y danchwa yn Senghenydd, a Liwsi Regina (1988) a ennillodd iddo Wobr Daniel Owen.

Golygydd a stor茂wr

O 1981 hyd 1986 bu Rhydwen Williams yn olygydd y cylchgrawn Barn.

Bu farw yn Aberd芒r ym 1997.

Roedd Rhydwen yn gwmni da dros ben ac yn hoff iawn o adrodd hanesion am y Cymry enwog a adnabyddai - yn eu plith, Richard Burton ac Emlyn Williams.

Roedd ganddo lu o gyfeillion a oedd yn driw iddo trwy gydol helbulon ei oes, oherwydd eu bod yn ei edmygu ac yn ei hoffi ar gyfrif ei bersonoliaeth diymhongar, twymgalon a hael.

Meic Stephens.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy