91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Manic Street Preachers
Manic Street Preachers

Ganwyd: 1986

Magwyd: Coed Duon


Rocwyr celf wleidyddol a drodd yn s锚r pop-roc

Wyddech chi? : Mynn rhai fod yr enw Manics wedi dod o'r llyfr 'Monty Python Life of Brian' sy'n rhestru'r enw Manic Street Preacher ymhlith y cymeriadau.

Y Coed Duon - cartref annisgwyl i fand efallai ond mae'r Manics o'r Coed Duon yn un o'r bandiau pwysicaf i ddod o Gymru. Mae'n nhw'n dal i chwarae ar waethaf sawl trawma personol, gwarth, llwyddiant ac enwogrwydd.

Fe anwyd y Manics, ond efo enw gwahanol, yn 1986 pan ffurfiodd James, Nicky, Sean a gitarydd rythm, yn fand o'r enw 'Flicker Betty Blue' ond roeddan nhw wedi newid eu henw i Manics erbyn rhyddhau eu sengl gyntaf 'Suicide Alley'.

Yn gyfeillion bore oes, buan iawn yr ymunodd un arall oedd eisoes ar gyrion y gr诺p Richey Edwards.

Methiant oedd y sengl gyntaf a symudodd y gr诺p i Lundain ac yno roedd eu siarad uniongyrchol a'u defnyddiau gweledol dan y lach.

Ond roedd un, sef Bob Stanley, yn meddwl yn wahanol ac fe gynorthwyodd hwy i ryddhau EP 'New Art Riot' i Heavenly Records, dyma sylfaen eu llwyddiant yn y dyfodol. Ar 么l rhyddhau dwy sengl arall, fe gawsant ddigon o sylw yn y wasg ac roedd gan bawb rywbeth i'w ddweud amdanynt.

Bellach bron nad oedd y ddelwedd yn fwy na'r gerddoriaeth felly pan ofynnodd y newyddiadurwr roc Steve Lamacq "os oeddan nhw for real?" torrodd Richey Edwards y geiriau 4 Real ar ei fraich i brofi'r pwynt gyda rasal. Chwe diwrnod yn ddiweddarach roedd Manics wedi arwyddo cytundeb efo Sony.

Gwerthodd eu halwm gyntaf 'Generation Terrorists' dros 250,000 o gop茂au ar draws y byd ac er i'r band honni mai gwneud un albwm ac yna gwahanu fyddai eu hanes, nid felly y bu.

Roedd yr ail albwm 'Gold Against the Soul' yn siom i rai ac ar 么l teithio fe'u cyhuddwyd o golli cyfeiriad. Gwaethygodd y sefyllfa pan fu farw Philip Hall yn Rhagfyr 1993 a gorfu i Richey fynd i glinig Priory yn Llundain i geisio trin ei broblemau emosiynol.

Cofnodwyd yr holl helyntion yn yr albwm ddu 'The Holy Bible' a ryddhawyd yn llwyddiannus iawn yn 1994. Ar ddiwedd taith llawn digwyddiadau, dinistriwyd gwerth 拢10,000 o offer ar lwyfan yr Astoria Llundain a dyna'r tro olaf iddynt chwarae'n bedwar.

Yn 1995 cyn iddynt gychwyn ar daith i'r Unol Daleithiau, fe gerddodd Richey allan o Westy'r Embassy yn Llundain ac ni ddychwelodd. Darganfuwyd ei basport a'i arian yn ei fflat yng Nghaerdydd a phythefnos yn ddiweddarach darganfuwyd ei gar ger Pont Hafren. Mae ei ddiflaniad bellach yn rhan o chwedloniaeth hanes roc ac yn eironig ddigon fe roed mwy o sylw i'r gr诺p.

Fe benderfynodd y gr诺p berfformio eto ar 么l deufis o aros, o deimlo'n s芒l, wedi'u parlysu gan flinder ac yn methu gwneud dim yn dilyn diflaniad Richey. Erbyn Ionawr 1996 roeddan nhw yn 么l yn y stiwdio ond y tro hwn yn driawd. Fe gafodd yr albwm 'Everything Must Go' groeso gwresog iawn a bu'n llwyddiant masnachol yn ennill dwy wobr Brit.

Doedd y nesaf 'This Is My Truth Tell Me Yours' ddim mor llwyddiannus ac yn 么l rhai roedd y s诺n yn rhy gyffyrddus epig. Doedd yr un teimlad ddim yno ac roedd y band yn cytuno.

Ond fe ddaethon nhw yn 么l gyda'r sengl pync 'The Mases against the Classes' a ddringodd i rif 1 yn y siartiau gan gyhoeddi s诺n mwy uniongyrchol. Yn dilyn cyngerdd llwyddiannus iawn yn Stadiwm y Mileniwm fe gyhoeddodd Nicky fod pedwerydd cyfnod y Manics ar fin dechrau.

Hyd yn hyn mae'r cyfnod newydd hwn wedi gweld y Manics yn chwarae yn Nghiwba ac erys y dylanwad pync ar yr albwm 'Know your Enemy'. Ar ddiwedd taith 2002 clywyd si am chwalu ac er na ellir rhagweld unrhywbeth efo'r Manics, mae'n go annhebygol.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy