Wedi g锚m llawn tensiwn, daeth unig g么l y g锚m gyda chwarter awr yn weddill.
Ac fe fydd y g么l yn cael ei thrafod am flynyddoedd, os nad degawdau i ddod.
Cafodd ergyd Hughie Ferguson ei arbed gan y golwr Arsenal, y Cymro Dan Lewis.
Ond rhywsut llithrodd y b锚l drwy ddwylo Lewis, o dan ei gorff a dros y llinell.
Pwysodd Arsenal am g么l gyfartal, ond safodd Nelson, Watson, Sloan a Keenor yn gadarn.
Ac ar ganiad y chwiban olaf heidiodd miloedd o Gymry gorfoleddus i'r maes er mwyn cofleidio eu harwyr.

Roedd hi'n briodol, a hithau'n ddydd nawddsant Lloegr mai'r Brenin Si么r V oedd y Gwestai Anrhydeddus i gyflwyno'r Gwpan i Keenor.
Hon oedd yr ail waith mewn tair blynedd yr oedd Caerdydd wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Lloegr.
Colli yn erbyn Sheffield United oedd hanes Caerdydd ym 1925.
Ond roedd Fred Keenor wedi mynnu bryd hynny y byddai Caerdydd yn dychwelyd i Wembley ac yn ennill y Gwpan.
Arsenal: Lewis, Parker, Kennedy, Baker, Butler, John, Hulme, Buchan, Brain, Blyth, Hoar.
Caerdydd: Farquharson, Nelson, Watson, Keenor, Sloan, Hardy, Curtis, Irving, Ferguson, Davies, McLachlan.
Goliau: Ferguson (74)
Dyfarnwr: W.F. Bunnell (Preston)
Torf: 91,206