|
Sgoriodd Kanu unig g么l y g锚m ar ddiwedd yr hanner cyntaf ar 么l i g么l-geidwad Caerdydd Peter Enckelman fethu dal croesiad isel John Utaka.
"Camgymeriad gostiodd y g锚m i ni, ond rhoddodd y chwaraewyr bopeth ar y cae a dyna'r oll y medrwn i ofyn amdano," meddai Jones.
"Fe all pawb fod yn falch o'r t卯m. Dwi ddim yn teimlo dim gwell ond dwi'n falch iawn o'r chwaraewyr a'r staff."
Dywedodd Joe Ledley ei fod yn teimlo bod Caerdydd wedi colli cyfle euraidd i wneud hanes ar 么l rhoi Portsmouth o dan gryn bwysa mewn g锚m agored.
"Dwi'n siomedig iawn, dwi'n meddwl ein bod ni 'di chwarae'n dda ac yn haeddu rhywbeth o'r g锚m," meddai'r Cymro ifanc sy'n hanu o'r Gaerdydd.
"Mae'r pethau 'ma yn digwydd ym mh锚l-droed ac mae'n rhaid i mi edrych ymlaen at dymor nesaf r诺an, ond mae hi 'di bod yn anrhydedd bod yma.
"Efallai down ni ddim yn 么l yma, felly 'ma hi'n gyfle 'da ni wedi ei golli - ond maen nhw'n chwarae yn yr Uwchgynghrair a 'da ni yn y Bencampwriaeth."
 |