91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 18 Mai 2008
Wythnos gron
18 Mai 2008
gan Tomos Owen Cynhyrchydd Adran Chwaraeon 91福利社 Cymru


Wedi'r holl edrych ymlaen, yr ewfforia yn y brifddianas a'r balchder cenedlaethol fe gymerodd hi gamgymeriad gan 诺r o'r Ffindir a g么l gan ymosodwr o Nigeria i roi stop ar bethau.

Ers wythnosau lawer 'roedd y paratoi at y g锚m derfynol wedi bod yn cynyddu'n raddol gan gyrraedd uchafbwynt dros yr wythnos ddiwethaf.

Wedi'r cyfan 'roedd hi'n 81 mlynedd ers i Gaerdydd gyrraedd y rownd derfynol a 'roedd perffaith hawl gan y cefnogwyr a'r cyfryngau i wneud y mwyaf o'r achlysur hanesyddol.

Yn y diwedd 'roedd yr hyn a gafwyd cyn y g锚m lawn cystal 芒'r g锚m ei hun.

Wedi'r holl drafod am ganu'r anthemau a'r ffaith mai Katherine Jenkins fyddai'n gwneud hynny, sicrhaodd problem dechnegol gyda'r meic na fyddai neb yn clywed pennill cyntaf Abide with Me o enau'r gantores o Gastell Nedd.

Bydd cystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd yn disgwyl gwell na hyn yn Sir Conwy wythnos nesaf!

Do, fe welwyd y cefnogwyr yn difr茂o'r anthemau ond wrth edrych ar y ddau d卯m 'doedd yr un o'r ddwy anthem yn berthnasol i fwyafrif y chwaraewr gan mai prin oedd y Cymry a'r Saeson yn y ddau d卯m.

Roedd balchder y cefnogwyr fodd bynnag yn amlwg a rhaid llongyfarch Cymdeithas B锚l-droed Lloegr am ganiat谩u i'r ddwy anthem gael eu canu.

Byddai'r papurau Llundeinig wedi bod wrth eu bodd yn lladd ar gefnogwyr Caerdydd am darfu ar God Save the Queen..

O leiaf 'roedd caniat谩u canu Hen Wlad Fy Nhadau hefyf yn profi fod y ddau set o gefnogwyr gynddrwg 芒'i gilydd.

Roedd John Motson yn cydnabod fod yr awyrgylch cyn y g锚m yn 'return to the real FA Cup'.

Nid y cefnogwyr achlysurol oedd wedi hen arfer ag ymweld 芒 Wembley oedd y rhain ond gwir ddilynwyr oedd yno i fwynhau achlysur unigryw.

Trueni nad oedd Motson a Lawrenson yn gallu cynnal y cyffro yn eu sylwebaeth a diolch byth am y botwm coch a chael clywed asbri Gareth Blainey, Malcolm Allen ac Iwan Roberts yn dadansoddi Cwpan Lloegr yn iaith y nefoedd!

Yn aml mae canlyniad g锚m b锚l-droed yn dibynnu ar ddigwyddiadau bychain.

Pe byddai Paul Parry wedi sgorio yn gynnar fe allai pethau wedi bod yn wahanol. Pe bai Peter Enckelman wedi dyrnu'r bel o afael Kanu a phe na bai Glen Loovens wedi llawio cyn rhoi'r bel yn y rhwyd. Pe bai....

Ar y cyfan, 'roedd Portsmouth yn haeddu'r fuddugoliaeth ond gall t卯m Caerdydd fod yn falch o'u perfformiad.

Gall y cefnogwyr hefyd fod yn falch o'u hymddygiad gan roi delwedd bositif i Glwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caerdydd o flaen cynulleidfa fyd-eang.

Gyda'r holl s么n cyn y g锚m at y troeon diwethaf i'r ddau glwb godi'r cwpan does ond gobeithio dau beth.

Y cyntaf yw na fydd ail-adrodd o'r hyn ddigwyddodd wedi i Portsmouth ennill y Cwpan yn 1939 - dechrau'r Ail Ryfel Byd.

Ar y llaw arall, wrth gofio Caerdydd yn ennill y Cwpan yn 1927 rhaid cofio fod yr Adar Gleision wedi cyrraedd y rownd derfynol ddwy flynedd ynghynt, yn 1925.

Does ond gobeithio y bydd hanes yn ail-adrodd y tro hwn ac y gwelir y fyddin las yn heidio n么l i Wembley mewn dwy flynedd ac y bydd meic Katherine Jenkins yn gweithio erbyn hynny.


chwaraeon



About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy