91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bocsio

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 07 Tachwedd 2008

Joe i brofi llwyddiant yn America fel Obama?

Joe Calzaghe


Gan John Ifans yn Efrog Newydd


Cefais brofiad anghyffredin, unigryw bron, yn Efrog Newydd yn gynharach yr wythnos hon.

Nid wyf am eiliad yn awgrymu taw mi yw'r Cymro cyntaf i brofi'r anghyfarwydd ym Manhattan ond, wrth gydnabod hynny, gallaf fynnu'r hawlfraint o fod y gohebydd cyntaf i rannu pryd o fwyd sylweddol gyda Joe Calzaghe, deuddydd cyn iddo ymladd yn y sgw芒r!

Mae honiad mor haerllug yn haeddu esboniad, mi wn, ac mae'r rheswm am y cyfarfod dros swper yn syml; oherwydd ers iddo gamu i'r sgw芒r proffesiynol am y tro cyntaf ar y cyntaf o Hydref 1993 bu Joe'n brwydro i ddisgyn i bwysau gofynnol y dosbarth uwch ganol, sef deuddeg st么n.

Yn naturiol, cama o gwmpas oddeutu 14 st么n, a rhwng 1993 a 2008 llwyddodd i golli'r pwysau ychwanegol cyn pob gornest trwy gyfuno llafur corfforol ac ymatal rhag bwyta.

Nid gorchwyl hawdd mohono chwaith a phan benderfynodd godi i ddosbarth yr is-drwm, sef deuddeg st么n a hanner, profodd d么n o ryddhad.

A dyna'r rheswm pam y gallai ymlacio a suddo pryd o fwyd cymharol sylweddol yr wythnos hon!

Mae'n wir iddo godi i'r pwysau uwch cyn ei ornest yn erbyn Bernard Hopkins yn Las Vegas fis Mawrth, ond mae'n mynnu nad oedd ar ei orau'r noson honno gan nad oedd yn gyfan gwbl gyfarwydd 芒'i amgylchiadau corfforol newydd.

"Doedd fy mherfformiad yn erbyn Hopkins ddim yn fy modloni'n llwyr," meddai, "yn enwedig gan i Hopkins fabwysiadu agwedd a thactegau mor negyddol."

Gwn mai peryglus yw temtio ffawd ond mae'n rhaid imi ddatgan y farn na welais Joe erioed mor gyffyrddus yn ei ymwareddiad cyn gornest mor bwysig.

Joe Calzaghe a Roy Jones Jr

Ymgymerodd 芒 dyletswyddau hyrwyddo am y tro cyntaf ac mae'n rhaid cydnabod iddo greu argraff ffafriol eithriadol o gael ei draed masnachol yn rhydd.

Ar 么l dweud hynny mae'n deg nodi fod gwrth gyferbyniad sylweddol rhwng marchnata'r ornest yn Las Vegas a'r hyn a brofwyd yn Efrog Newydd hyd yn hyn, yn ystod yr wythnos y profodd y Bonwr Obama ei fuddugoliaeth fythgofiadwy.

Ym mis Ebrill ni fedrwyd symud llathen heb weld poster neu berson yn hyrwyddo'r ymafael rhwng Joe a Hopkins.

Yma, muriau allanol adeilad y Madison Square Garden yn unig sy'n hysbysebu'r ornest rhwng y Cymro a Roy Jones Jr.

Eto denwyd prif ohebyddion y gamp ledled y byd i'r 'Afal Mawr' gyda phob un yn awchu i gynnig sylwadau ar yr ornest rhwng dau o'r cystadleuwyr mwyaf llwyddiannus a brofodd bocsio erioed.

Onid oedd Roy Jones Jr yn ei anterth yn ystod ei gyfnod yn bencampwr mewn pedwar pwysau gwahanol ac iddo gyrraedd y brig wrth guro John Ruiz am bencampwriaeth trwm WBA y byd ym mis Mawrth 2003?

Ers hynny, collodd dair gornest yn olynol cyn adfer ei hunan-barch mewn ffyrdd digon sigledig mewn tair gornest arall.

Gwelsom Joe yn bwerus a dewr yn erbyn Byron Mitchell yn 2003, yn athrylithgar o feistrolgar wrth dawelu'r cegog Jeff Lacy yn 2006 ac yna'n ateb pob gofyn wrth teyrnasu yn erbyn Mikkel Kessler flwyddyn yn 么l.

Teg dweud nad oedd Calzaghe ar ei orau yn erbyn Hopkins ac mae'n mynnu y bydd ei berfformiad yn fwy safonol yn erbyn Jones Jr.

Eto, o gofio'r goten roddodd Hopkins i Kelly Pavlik ychydig wythnosau yn 么l, a ddyle ni ail ystyried cyfraniad Joe yn erbyn Hopkins?

Mae'r g诺r o Fflorida yntau'n ffyddiog yngl欧n 芒'i adferiad ac yntau o fewn deufis i'w ben-blwydd yn ddeugain.

Ai'r Cymro unllygeidiog ynof sy'n argyhoeddedig taw'r Cymro 36 mlwydd oed fydd yn fuddugol unwaith yn rhagor? Amser a ddengys.


chwaraeon



About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy