91福利社

Huw Jones

Arloeswr pop, cyflwynydd teledu, ac un o sefydlwyr cwmni Sain

Arloeswr pop, cyflwynydd teledu, ac un o sefydlwyr cwmni Sain

Proffeil

Ganwyd Huw Jones ym Manceinion ym 1948. Symudodd y teulu i Gaerdydd lle addysgwyd Huw yn Ysgol Bryntaf ac Ysgol Uwchradd Y Bechgyn. Ar 么l gadael ysgol astudiodd Ffrangeg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen.

Dysgodd y grefft o ganu yn gyhoeddus yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, ac wedyn yn y clybiau canu gwerin yng Nghaerdydd, ble perfformiodd yn aml gyda'i ffrindiau Heather Jones, Geraint Jarman, Huw Jenkins ac Eluned Evans.

Ym 1968 arwyddodd i Welsh Teldisc a rhyddhau'r EP Cymru'r Canu Pop. Blwyddyn yn ddiweddarach dilynwyd hynny gan y sengl Y Ffoadur, ond roedd Huw Jones yn anhapus gyda chyfleusterau recordio cyntefig Welsh Teldisc, ac felly, ym 1969 ffurfiwyd Sain gyda Dafydd Iwan a Brian Morgan Edwards.

Gyda chymorth Meic Stevens recordiodd 顿诺谤 (1969), sengl gyntaf Sain, yn Stiwdio Central Sound yn Llundain. Hon oedd y record Gymraeg cyntaf i gael ei recordio ar beiriant aml drac a'i chymysgu mewn stereo.

Recordiodd sengl arall, Paid Digalonni, ym 1970 gyda Meic Stevens unwaith eto wrth y llyw yn Stiwdio Central Sound. Roedd hon yn g芒n o deyrnged i Dafydd Iwan a charcharwyd ar ddechrau'r flwyddyn yn sgil protest Cymdeithas Yr Iaith.

Ar ddiwedd y flwyddyn rhyddhawyd yr EP Gwylliaid Cochion Mawddwy. Mae'n cynnwys y g芒n Mathonwy a sgrifennwyd ar y cyd gyda Dewi "Pws" Morris. Dyma'r tro olaf i Meic Stevens gynhyrchu un o recordiau Huw Jones.

Mae Daw Dydd (Sain, 1971) yn cynnwys y g芒n hyfryd Ble'r Aeth Yr Haul, deuawd gyda Heather Jones a sgrifennwyd gan Dewi. Recordiwyd yn Stiwdio Rockfield gyda Cenfyn Ifans o'r Dyniadon yn cynhyrchu.

Erbyn hyn roedd Huw Jones yn cyflwyno rhaglen bop wythnosol 91福利社 Cymru, Disc A Dawn, ac roedd Dwi Isio Bod Yn Sais (Sain, 1973) - ei record olaf - o bosib yr un mwyaf poblogaidd.

Roedd Adlais (Sain, 1976) yn gasgliad o oreuon, gyda rhai o'r traciau wedi eu haddasu ar gyfer stereo. Roedd un trac yn arbennig wedi cael ei recordio o'r newydd, sef Mathonwy oddi ar * Gwylliaid Cochion Mawddwy. Dewiswyd y fersiwn yma ar gyfer *Welsh Rarebeat, ar draul y fersiwn gwreiddiol, ble mae Meic Stevens yn chwarae git芒r drydanol, drymiau a'r congas.

Gari Melville


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

91福利社 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

91福利社 iD

Llywio drwy鈥檙 91福利社

91福利社 漏 2014 Nid yw'r 91福利社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.