|





Mae Hannah Ridgeway Rheolwr Cyfathrebu Byd y Bwyd yn rhoi rhagor o gefndir y prosiect.
"Mae'r lori gymalog anferth hon, sy'n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf, yn troi'n gegin ac yn ystafell ddosbarth bwrpasol a thrawiadol lle bydd athrawon bwyd cymwys yn rhoi cyfle i ddisgyblion, athrawon a'r gymuned gael blas ar goginio bwyd o safon.
Caiff y Bws Coginio hwn ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i redeg gan Ymgyrch Byd y Bwyd, sef y prif fudiad sy'n hybu cyfleoedd i addysgu coginio mewn ysgolion ar draws y DU.
Beth mae modd ei wneud ar y bws coginio? Bydd y disgyblion yn mynd ar y Bws i gael gwersi dan ofal Richard Shaw, yr Athro Ymgynghorol. Mae ei raglen o weithgareddau coginio wedi'u cynllunio i gynorthwyo ysgolion ac wedi'i theilwra i gyd-fynd ag oedran y rheiny sy'n cymryd rhan. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer yr athrawon a'r gymuned ehangach hefyd, fel y gallant barhau i helpu pobl ifanc i goginio'n hyderus ymhell ar 么l i'r Bws adael safle'r ysgol.
Mae Bysiau Coginio Byd y Bwyd yn teithio o gwmpas y DU ac yn rhoi gwersi i blant o bob oed ar sut i baratoi, coginio a mwynhau bwyd go iawn. Ymhlith rhai o'r seigiau nodweddiadol a gaiff eu paratoi ar y Bws y mae salad cwscws llysiau rhost, samosas llysiau, salad Caerffili, tatws trwy'u crwyn 芒 chaws, cebabs ffrwythau a smwddis ffrwythau.
Yn ogystal, cynhelir sesiynau cymunedol ar y Bws er mwyn rhoi'r un addysg i rieni a gofalwyr. Bydd y disgyblion yn astudio maetheg, diogelwch a hylendid bwyd, a sgiliau paratoi bwyd. Gwaith coginio ymarferol sy'n ganolog i bob gwers.
Mwy o Fachynlleth
 |