91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
Eglwys Llansantffraid, lle gorwedd bedd Henry Vaughan.
Henry Vaughan

Ganwyd: 1621

Magwyd: Y Dre-newydd, Sgethrog, yn Nyffryn Wysg

Addysg: Coleg Iesu, Rhydychen


Bardd metaffisegol mawr

Un o feirdd Saesneg pwysicaf yr ail ganrif ar bymtheg oedd Henry Vaughan, ac roedd yn Gymro Cymraeg.

Er bod rhai beirniaid yn barnu ei fod yn perthyn i'r traddodiad Saesneg yn unig, mae ei gerddi yn cynnwys sawl cyfeiriad at ei fro enedigol yn Sir Frycheiniog, a galwai ei hun yn 'Silurist', sef un a berthynai i lwyth Brythonig y Silwriaid a drigai'n ne-ddwyrain ein gwlad.

Ganwyd Henry Vaughan ym 1621 yn y Dre-newydd, Sgethrog, yn Nyffryn Wysg, yn 诺yr i William Vaughan o Dret诺r, Sir Frycheiniog; roedd Thomas Vaughan, yr alcemydd a bardd, yn efaill iddo.

Ym 1638 aeth y ddau frawd i Goleg Iesu, Rhydychen, ond gadawodd Henry heb gymryd gradd a mynd i Lundain i astudio'r Gyfraith. Yn ystod y Rhyfeloedd Cartref ochrodd y ddau gyda'r Brenin.

Profiad crefyddol

Ymddangosodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Poems, lle mynegodd ei ddaliadau brenhinol eithafol, ym 1646.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach cafodd y bardd brofiad crefyddol dwys a hwn oedd wrth wraidd ei gyfrol Silex Scintillans (1650). Yn ei gyfrol Olor Iscanus ('Alarch Wysg', 1651) mae'n dwyn i gof ei gyfeillion; mae'r gerdd 'To the River Isca' yn rhoi'r teitl i'r gyfrol.

Mae Thalia Redivivia (1678) yn cynnwys cerddi a gyfansoddwyd rhyw ddeng mlynedd ynghynt.

Rhwng 1650 a 1655 ymroddai Vaughan ei hun i ryddiaith a chyfieithu o'r Groeg, Lladin a Sbaeneg, cyn symud ymlaen at feddygaeth.

Ymddangosodd ei Hermetical Physick ym 1655, a dichon yn yr un flwyddyn dechreuodd weithio fel meddyg, er nad oes sicrwydd bod cymwysterau ganddo.

Bywyd helbulus, beddargraff edifeiriol

Roedd Henry Vaughan yn 诺r penderfynol a ymosodai'n chwerw ar ei lu o elynion crefyddol a gwleidyddol; cymharai hwy a'r Iddewon a groeshoeliodd yr Iesu.

Aeth i'r gyfraith fwy nag unwaith, hyd yn oed yn erbyn ei blant ei hun. Oherwydd yr helbul oedd wedi bod rhyngddynt, mae'n debyg, dewisodd gael ei gladdu tu allan i eglwys Llansantffraid, gan ddewis hefyd y geiriau sydd i'w gweld ar ei garreg fedd: 'Servus Inutilus: Peccator Maximus: Hic Iaceo: Gloria Miserere'.

Bedd Henry VaughanUwchben ei fedd ysgrifennodd y bardd o Sais Siegfried Sassoon ei gerdd sy'n cloi gyda'r geiriau 'And here stand I, a suppliant at the door'.

Roedd Henry Vaughan yn un o'r beirdd metaffisegol mawr. Mae gan ei gerddi rhythm a churiadau tu mewn i'r mydr traddodiadol sy'n adleisio'r llais llafar.

Yn rhai ohonynt gwelir yr arfer o bentyrru ymadroddion disgrifiadol byr sy'n deillio o'r dechneg a elwir yn ddyfalu yn y Gymraeg.

Ei gerddi gorau, yn ddi-os, yw'r rhai sydd yn adlewyrchu ei ffydd Gristnogol, ac maent yn pefrio ag arabedd a delweddau ac ymadroddion lliwgar dros ben.

Ymhlith ei gerddi enwocaf gellir enwi 'They are all gone into the world of light!' a 'Peace', sy'n agor gyda'r geiriau 'My soul, there is a country / Far beyond the stars'.

Bu farw'r bardd ym 1695.

Meic Stephens


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy