91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
Bedd Dewi Emrys
Dewi Emrys

Ganwyd: Mai 28, 1881

Magwyd: Ceinewydd, Aberteifi, a Rhosycaerau, Sir Benfro

Addysg: Ysgol Pencaer, Ysgol Ramadeg Jenkins Abergwaun, Ysgol Uwchradd Abergwaun, Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin


Rhan 4 - (1948-1952) Melys hun wedi aml siom

Ar 么l iddo ennill ei bedwaredd gadair Genedlaethol bu'n rhaid iddo roi'r ffidil yn y to. Oherwydd ei fod, ers 1936, yn athro beirdd tra llwyddiannus, fe ellid tybio y byddai'r Eisteddfod Genedlaethol wedi galw arno i feirniadu. Ond roedd Dewi yn feirniad llym a phan fyddai'n gweld beiau mewn cyfansoddiad fe ddywedai hynny heb flewyn ar ei dafod. Un tro dywedodd fod llawer o feirdd yn ddim byd ond 'rhyw felinau gwynt y Gynghanedd oedd yn nyddu geiriau blith draphlith heb ddeall na phoeni am eu hystyr.'

Ychwanegodd:"Pan oeddwn yn hogyn, gwelais siwglwr yn stwffio'i geg 芒 darnau o newyddiadur a'u tynnu allan yn bistylloedd o rubanau amryliw.

"Camp y rhain - beirdd y gystadleuaeth - yw llyncu geiriadur a'i dirwyn allan yn blethwaith o gynganeddion na ddichon i neb ddirnad eu hystyr."

Yn 1930 ganed merch iddo, Dwynwen, a'r blynyddoedd a dilynodd yn hanes y bardd yr ysgrifennodd mam Dwynwen, Dilys Cadwaladr, amdanynt yn Y Cymro o dan y teitl - Taith Yr Anialwch -.

Ond yn 1941 daeth y cyrchu mawr gan awyrennau'r Almaen dros drefi a dinasoedd Prydain, gan gynnwys Abertawe a De Cymru. Bu'n rhaid anfon Dwynwen i ffwrdd yn faciw卯 i Ogledd Cymru a pheth amser wedyn symudodd Dewi i fyw i bentref bach Talgarreg yng Ngheredigion. Yno y treuliodd yr un ar ddeg mlynedd nesaf.

Erbyn dechrau'r pumdegau roedd y galwadau i bregethu neu i feirniadu wedi mynd mor brin nes y sylweddolodd un o'i gymdogion a'i ffrindiau gorau, Tom Stephens ei fod mewn angen.

Yn ystod gaeaf 1951 sylweddolodd nad oedd gan y Prifardd ddigon o lo yn ei fwthyn i'w gadw'n gynnes.

Ar y cyd 芒 T Llew Jones penderfynwyd bod gwasanaeth mawr Dewi fel athro beirdd yn y Babell L锚n yn haeddu tysteb genedlaethol.

Dywedodd T Llew Jones, a enillodd y Gadair Genedlaethol ei hun yn 1958 a 1959: "Teimlai Tom a minnau'n si诺r y byddai ei lu ddisgyblion yn awyddus i gyfrannu rhywbeth i ddangos eu gwerthfawrogiad o'i waith.

"Gyrrwyd hysbysebion i'r wythnosolion ac yn wir cafwyd ymateb go lew. Ond rhyw goron neu chweugain oedd y cyfraniadau, oddi wrth feirdd gwlad yma a thraw, a rhyw bobl a gofiai'n annwyl am Dewi o'r dyddiau cynnar.

"Ni allaf gofio'n gywir faint oedd swm y dysteb i Dewi yn y diwedd ond nid oedd yn fawr.

"Mae'n amheus gennyf a ddaeth hi'n uwch na rhyw ganpunt i gyd." Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1952 yn Aberystwyth ac roedd yn rhaid tynnu ychydig arian o'r gronfa er mwyn galluogi'r Prifardd i fynd iddi mewn siwt deidi 芒 thipyn o bres yn ei boced.

Erbyn hyn roedd Dewi'n wael ei iechyd ac roedd yr Eisteddfod yn un siomedig iddo. Cafodd y dyn fu'n eilun tyrfaoedd mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru ei anwybyddu bron yn llwyr gan y dorf a ddaeth ynghyd yn 1952. Cymerodd Dewi lwyfan y Babell L锚n i gyhoeddi bod cyflwyno tysteb iddo yng ngwesty'r Bele Vue y noson honno.

Dywedodd T Llew Jones: Yr oedd ei ymddangosiad mor sydyn 芒'i eiriau mor annisgwyl nes codi ton o chwerthin trwy'r Babell Len.

Fel yna, mewn ffordd ddigon rhyfedd ac yn s诺n tipyn o chwerthin amharchus y dyrfa y gwnaeth Dewi Emrys ei 'exit' olaf oddi ar lwyfan yr Eisteddfod."

Mis yn ddiweddarach, bu farw Dewi Emrys yn ysbyty Aberystwyth ar Fedi'r ugeinfed 1952 a chladdwyd ef ym mynwent Pisgah, Talgarreg. Ychydig iawn o bobl a welodd yn dda i ddod i'r angladd. Yn wir, roedd y capel yn hanner gwag.

Dywedodd adroddiad Y Cymro: Ychydig berthnasau, ychydig gyfeillion ac ychydig gymdogion. A'r rhai sy'n honni bod yn gynheiliaid ll锚n a diwylliant Cymru, roeddent yn rhy brysur gyda phethau eraill i ddod ynghyd i ffarwelio ag un o'r tywysogion."

Cyhoeddodd ddim ond dwy gyfrol o'i gerddi Cymraeg, sef Y Cwm Unig (1930) a Cerddi'r Bwthyn (1950), ac un o'i gerddi Saesneg, Rhymes of the Road (1928) o dan yr enw David Emrys.

Cafwyd gyfrol goffa, Wedi Storom, ym 1965.

Ychwanegodd at ei fri fel llenor ar gyfrif ei olygyddiaeth o'r golofn farddol yn Y Cymro rhwng 1936 a 1952, lle rhoddai gyngor ac anogaeth i lu o feirdd ifainc; cyhoeddwyd pigion o farddoniaeth ei 'ddisgyblion' yn y gyfrol Cerddi'r Babell (1938).

Ysgrifennodd hefyd gyfrol o ysgrifau, sef Odl a Chynghanedd (1937).

Ar 么l i Dewi farw fe ddaeth y Parchedig Undodaidd D Jacob Davies o hyd i gwpled mewn rhyw ddr么r ym mwthyn Dewi - cwpled yr oedd Dewi wedi'i adael i'w osod ar ei garreg fedd. Ac felly y bu.

'Melys hun wedi aml siom
Distawrwydd wedi storom.'

Daniel Davies


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy