91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
Ambrose Bebb: llun drwy garedigrwydd Barddas.
Ambrose Bebb

Ganwyd: 1894

Magwyd: Goginan, Sir Aberteifi

Addysg: Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth


Hanesydd, gwleidydd ac ysgrifwr

Hanesydd yn anad dim oedd Ambrose Bebb, er ei fod yn amlwg yn rhengoedd Plaid Cymru am gyfnod o ryw bymtheg mlynedd.

Roedd yn arbennig o hoff o Ffrainc, gan ysgrifennu'n helaeth am y wlad honno.

Bu penderfyniad Plaid Genedlaethol Cymru i fabwysiadu polisi o niwtraliaeth tuag at yr Ail Rhyfel Byd yn wrthun ganddo, gan ei fod yn dra awyddus i amddiffyn diwylliant Ffrangeg, a oedd wedi cyfrannu gymaint i wareiddiad Ewrop, rhag Nats茂aeth.

Brodor o Goginan, Sir Aberteifi, a mab fferm, oedd Ambrose Bebb; ganwyd ef ym 1894.

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle darllennodd Hanes.

Dylanwad Charles Maurras

Treuliodd bedair mlynedd ym Mharis yn fyfyriwr yn y Coll猫ge de France ac yn ddarlithydd Cymraeg yn y Sorbonne.

Yno daeth dan ddylanwad Charles Maurras, y Cenedlaetholwr Ffrengig, a'i blaid geidwadol, brenhinol, asgell-dde, sef yr Action Fran莽aise.

Cyhoeddodd ddetholiad o'i fyfyrdodau am wareiddiad Ewrop yn y gyfrol Crwydro'r Cyfandir ym 1936.

Daeth yn 么l i Gymru ym 1925 i gymryd swydd yn diwtor yn y Coleg Normal, Bangor, ac yno yr arhosodd am weddill ei oes.

Ymddiddori yn Llydaw

Roedd ganddo ddiddordeb hefyd yn Llydaw, lle teithiodd ar adeg pan oedd y mudiad cenedlaethol yn ei hanterth.

Dysgodd yr iaith Llydaweg ac roedd ganddo lu o gyfeillion yn y wlad.

Cyfrannodd nifer mawr o erthyglau i'r papur Breiz Atao. Yn ei dair gyfrol Llydaw (1929), Dyddlyfr Pythefnos (1939) a Pererindodau (1941) ceir darlun personol o arweinwyr y mudiad a oedd, ym marn rhai, yn gyfrifol am ledaenu syniadau anghywir difrifol.

Er ei fod yn feirniadol o bolis茂au Ffrainc tuag at Lydaw, ni phallodd ei edmygedd o Ffrainc fel un o gadarnleoedd diwylliant Ewrop.

Cenedlaetholdeb Cymreig

Am Gymru cyhoeddodd pum lyfr, sef Ein Hen, Hen Hanes (1932), Llywodraeth y Cestyll (1934), Machlud y Mynachlogydd (1937), Cyfnod y Tuduriaid (1939), a Machlud yr Oesoedd Canol (1950).

Ei nod fel hanesydd oedd deffro brwdfrydedd yn hanes y Cymry ymhlith ei ddarllenwyr.

Er bod y llyfrau hyn yn dderbyniol iawn yn eu dydd, maent wedi colli eu bri ac mae Bebb yr hanesydd wedi mynd yn angof.

Arloeswr cenedlaetholdeb

Roedd Ambrose Bebb ymhlith yr ychydig a ddaeth ynghyd i sefydlu Y Mudiad Cymreig ym 1924, grwp a dyfodd yn y man i fod yn Blaid Genedlaethol Cymru.

Roedd ymhlith gweithwyr selocaf y Blaid hyd at yr Ail Ryfel Byd.

Ennillod sedd ar Gyngor Dinas Bangor yn enw'r Blaid ym 1939.

Wedyn daeth y gweryl gyda'r arweinwyr eraill, ac enciliodd Bebb o fywyd gwleidyddol ein gwlad.

Ond ym 1945, wedi taer bwyso arno, cytunodd i sefyll fel ymgeisydd y Blaid yn yr Etholiad Seneddol yn Sir Gaernarfon, pan ddaeth yn drydedd ar 么l cynrychiolwyr y Blaid Llafur a'r Blaid Rhyddfrydol, gyda rhyw 5% o'r pleidleisiau a fwriwyd.

Troi'n fwy at grefydd

Tua diwedd ei fywyd rhoddai Bebb mwy o bwyslais ar grefydd nac ar wleidyddiaeth; mynegodd ei ffydd Gristnogol yn y gyfrol a gyhoeddwyd ar 么l ei farwolaeth, sef Yr Argyfwng (1956).

Roedd yn bleidiol iawn i'r Ysgol Sul. Credai'n angerddol fod cyflwr cenedl yn dibynnu mwy ar ei chrefydd nac ar ei wleidyddion.

Er gwaethaf ei edmygedd o Ffrainc, ni chafodd ei ddenu gan Gatholigiaeth.

Ysgrifennodd Bebb Gymraeg cyhyrog a synhwyrol. Roedd ei argyhoeddiad a'i ddiffuantrwydd yn amlwg ym mhopeth a ysgrifennodd.

Roedd yn arddel, yn aml iawn, eiriau ac ymadroddion ei dafodiaith ei hun, gyda chanlyniadau hyfryd fel arfer.

Cyhoeddodd dair nofel yn ogystal : Y Baradwys Bell (1941), Gadael Tir (1948) a Dial y Tir (1945).

Bu farw ym Mangor ym 1955.

Meic Stephens


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy