91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

cantorion
Si芒n James
Si芒n James

Ganwyd: 1962

Magwyd: Llanerfyl, Sir Faldwyn

Addysg: Ysgol Gynradd Llanerfyl, Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion a Phrifysgol Cymru, Bangor


Cyn aelod o'r gr诺p Bwchadanas, yn un o gantoresau gwerin amlyca' Cymru ac arweinydd Parti Cut Lloi.

Ganed yn Llanerfyl, Sir Faldwyn yn 1962 a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanerfyl, Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion a Phrifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Cerddoriaeth, ac ennill cymhwyster dysgu.

Fe'i magwyd ar aelwyd ddiwylliedig, ac fe'i trwythwyd yn y pethe o oedran cynnar. Dechreuodd gystadlu a chymryd rhan mewn eisteddfodau pan oedd ond yn dair oed, a dysgodd i ganu'r piano yn chwech oed, y feiolin yn wyth oed a'r fiola yn un ar ddeg oed. Cyn ei bod yn ddeunaw, roedd wedi dechrau perfformio'n fyw ar lwyfan gyda'i dehongliad o ganeuon gwerin Cymraeg, ynghyd 芒 chyfansoddiadau ei hun - arwydd clir o'r hyn oedd i ddod.

Tra yr oedd yn y coleg, datblygodd ei diddordeb mewn cyfansoddi o dan ddylanwad ei thiwtor a'r cyfansoddwr enwog, William Mathias. Yn yr un cyfnod, ffurfiodd y band gwerin Bwchadanas gyda chriw o ffrindiau. Rhyddhawyd un albym 'Cariad Cywir', sy'n gyfuniad bywiog o arddulliau gwerin a roc.

Ym 1990, rhyddhaodd Si芒n James ei halbym unigol cyntaf, 'Cysgodion Karma' sy'n gymysgedd o ganeuon traddodiadol a gwreiddiol ac roedd ei hail albym 'Distaw' yn cynnwys caneuon gwreiddiol yn bennaf, ond roedd unwaith eto yn cynnwys dehongliadau ei hun o ganeuon gwerin traddodiadol.

Traddodiadol yn unig oedd 'Gweini Tymor' a ryddhawyd yn 1996, ond roedd y nesaf 'Di-gwsg' yn ganeuon gwreiddiol mewn arddull Geltaidd. Comisiynwyd ei phumed albym 'Birdman' fel trac sain i gyfres chwe rhaglen gan 91福利社 2 o'r un enw. Mae ei chasgliad diweddaraf 'Pur' (2001) yn fwy o adlewyrchiad o'i pherfformiadau byw, gan mai dim ond llais a thelyn a glywir.

Fel rhan o'r gr诺p Bwchadanas ac fel perfformiwr unigol, mae Si芒n James wedi teithio yn helaeth o amgylch o byd, gan chwarae mewn gwyliau a chyngherddau yn y gwledydd Celtaidd, Ffrainc, Sbaen a Gogledd America.

Mae cryn ddiddordeb yn ei gwaith ar lefel ryngwladol, ac mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr adfywiad mewn cerddoriaeth Geltaidd draddodiadol a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yng ngogledd America.

Bydd Si芒n James yn adnabyddus i wylwyr S4C hefyd fel actores mewn ffilmiau fel Y Dylluan Wen a chyfresi fel Iechyd Da. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod hefyd, lle gwahoddodd artistiad gwerin rhyngwladol fel The Saw Doctors a Capercaillie i gymryd rhan, arwydd o'r parch sydd ati yn y cylchoedd gwerin a chanu Celtaidd.

Gyda'i llais clir, melys, sy'n offeryn amryddawn ynddo'i hun, ar adegau yn gorwynt o gryf, dro arall yn gysurlon o dyner, go brin ein bod wedi clywed hanner yr un sydd gan y berfformwraig dalentog hon i'w gynnig.

Sian James, yn anad neb arall, yw wyneb canu traddodiadol Cymreig yng ngolwg y byd, a bydd yn ddiddorol gweld dros y blynyddoedd nesaf i ba gyfeiriad yr aiff yn gerddorol a phroffesiynol.

Mae Si芒n James hefyd yn arweinydd Parti Cut Lloi, criw o ddynion yn Sir Drefaldwyn sy'n diddanu cynulleidfaoedd yn canu alawon gwerin a pherfformio sgetsys byrion mewn neuaddau pentre' ledled Cymru.


Cyfrannwch

Annette Strauch
Pan mi oeddwn i'n byw yn yr Almaen mi brynais i lawer o dapiau Sian James. Llais hyfryd!Hen ffeffryn i: "Ac mae ffordd yn hir...!"
Fri Feb 6 17:35:50 2009

Aberfa
waw....ti'n actio mor dda. Dwi eisiau bod fel ti pan dwi yn fawr - canu actio POB DIM!
Sun Feb 3 15:49:40 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy