91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

cantorion
Brychan Ll欧r
Brychan Ll欧r

Ganwyd: 1970

Magwyd: Aberteifi

Addysg: Ysgol Gynradd Blaenporth, Ysgol Uwchradd Aberteifi a Choleg Caerfyrddin.


Canwr, cyn aelod o'r gr诺p Jess a chyflwynydd teledu

Ganed yn 1970 yn fab i'r Prifardd Dic Jones, a mynychodd Ysgol Gynradd Blaenporth ac Ysgol Uwchradd Aberteifi. Aeth ymlaen i astudio celf yng Ngholeg Caerfyrddin. Ffurfiodd y band Jess gyda ffrindiau ysgol yn 1987.

Daeth Jess i wir amlygrwydd yn ystod diwedd yr 80au, gan chwarae gigs cyffrous ledled Cymru, a Brychan yn hudo'r merched gyda'i bersona Jim Morrison-aidd, hanner noeth (o'r canol i fyny!)

Rhyddhaodd Jess eu halbym gyntaf "Jess" (1988) ar label Fflach, ac fe'i dilynwyd gan "Y Gath" (1989), a ddangosai aeddfedrwydd anarferol a chyd chwarae tynn ac arbrofol. Cydnabyddir mai eu halbym nesaf, "Hyfryd i Fod yn Fyw" (1990) yw eu campwaith. Mae'n un o albyms gorau y 1990au (mewn unrhyw iaith), ac yn dal yn swnio'n ffres heddiw, gyda chlasuron megis "Julia Gitar" a "Shiglidi Bot" yn dangos band yn llithro'n ymddangosiadol ddiymdrech o un arddull i'r llall - seicadelia, gwerin, ffync, roc a phop.

Roedd ffiniau'r band roc git芒r traddodiadol yn cael eu gwthio i'r eithaf. Ar 么l rhyddhau 'Paris Hotel' (1992), yn 么l tueddiad y cyfnod, trodd Jess i ganu'n Saesneg, a rhyddhawyd 'Sextravaganja' (1993) a oedd yn cynnwys fersiynau Saesneg o rai o ganeuon 'Paris Hotel'. Recordiwyd rhywfaint o ddeunydd ar gyfer albym bellach, o'r enw "Pink", ond nid yw wedi gweld golau dydd hyd yma, er bod y chwedlau o'i chwmpas yn awgrymu y gallai fod eu halbym gorau oll.

Wedi hynny, ar 么l perfformio'n fyw ar deledu cenedlaethol yr Eidal, tawelwch fu o ran Jess, ond nid oedd hynny i ddweud bod taw ar egni cerddorol aflonydd Brychan Ll欧r.

Yr oedd yr albym 'U4Ria' (1997) yn dipyn o ymadawiad cerddorol, gyda Brychan yn rhydd i arbrofi efo'i lais dros wahanol fathau o arddulliau dawns (jyngl, hip-hop garage), a theg dweud y bu'n ormod o bwdin i lawer o ffans traddodiadol Jess i'w llyncu. Serch hynny, roedd yn albym o flaen ei hamser, ac yn gam dewr ymlaen gan artist oedd 芒'i fryd ar ddilyn llwybr cerddorol bendant ei hun.

Mabwysiadodd ymagwedd uniongyrchol, foel ar gyfer ei albym unigol gyntaf, 'Veleno Rumoroso' (1998), gyda 10 c芒n acwstig a recordiodd yn ei stiwdio gartref, ond roedd gwreiddioldeb y caneuon dwyieithog a llais anhygoel, aml-haenog Brychan yn nodweddion amlwg.

Mae ei ail albym unigol 'Vexed Fanatica' (2000) yn llawer mwy sylweddol-dros 48 munud o hyd, ond roedd yn dangos eto fod byd cerddorol Brychan yn fythol symudol, ac nad oedd diben ei gategoreiddio o dan bennawd unrhyw arddull arbennig.

Roedd 'Bad Pink Vibe' (2001) yn albym fwy hwyliog, a hanner y caneuon wedi eu recordio fel perfformiadau byw, ac roedd yn cynnwys cyfraniad a ffrwyth cydweithio gyda Randy Bernsen, sydd wedi cydweithio gyda rai o enwau mwyaf y s卯n jazz gyfoes.

Ei albym ddiweddaraf yw 'Reel in Between', sy'n cynnwys cyfraniadau gan ei hen bartner o ddyddiau Jess, Chris Lewis, ac amryw o gerddorion Eidalaidd.

Er mai cymharol ychydig o sylw a gafodd ei recordiau unigol yng Nghymru, gwnaeth dipyn o enw iddo'i hun yn yr Eidal, lle y mae'n ymwelydd cyson, ac fe'i gwelir ambell waith yn cyflwyno'r rhaglen cylchgrawn Wedi 3 ar S4C Digidol.

Mae hefyd yn rhedeg gwersyll t卯pis ar fferm ei deulu ym Mlaenannerch. Sir Benfro, a bydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf cyn bo hir fel joci yn rasio ceffylau dros glwydi. Mae'r enaid aflonydd yn parhau!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy