91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Gareth Gwenlan
Gareth Gwenlan

Ganwyd: 1937

Magwyd: Aberhonddu


Un o gynhyrchwyr comedi mwyaf poblogaidd Prydain

"Dw i wedi credu ers amser bod na lawer o dalent heb ei defnyddio yng Nghymru, ac mae'n ddirgelwch imi pam nad yw'n teithio dros y ffin. Os medrwn ni gynhyrchu cantorion a cherddorion, pam ddim comedi?

Yn ogystal 芒 chynhyrchu'r rhaglen, fe ymddangosodd Gareth Gwenlan mewn rhifyn Nadolig arbennig o Only Fools and Horses fel yr heddwas ar ben ceffyl sy'n chwalu'r dyrfa er mwyn galluogi Del, Raquel a Damien fynd heibio.

Actor oedd Gareth Gwenlan yn wreiddiol ond bellach mae'n gynhyrchydd a chyfarwyddydd. Mae ei CV yn cynnwys y clasuron megis Perrin, Butterflies, To the Manor Born heb s么n am Only Fools and Horses.

Ganwyd Gareth Gwenlan yn Aberhonddu yn 1937 ac fe ddechreuodd fel actor yn y Theatre Royal yn Efrog yn 1960 cyn derbyn swydd fel actor/gynhyrchydd yn y Derby Playhouse rhwng 1962 ac 1964. Yn ystod y cyfnod hwn, fe gyfarwyddodd dros 40 o gynyrchiadau yn gomed茂au, sioeau cerdd a phanto, o Ibsen i Strindberg.

Yn 1964, apwyntiwyd ef yn Brif Ddarlithydd Drama ac Opera yn Ngholeg Cerdd y Gogledd ym Manceinion ac yno fe gyfarwyddodd oper芒u megis Otello a Madame Butterfly.

Flwyddyn yn ddiweddarach, fe ymunodd ag Adran Ddrama y 91福利社 cyn symud i'r Adran Gomedi yn 1967. Treuliodd y ddwy flynedd ganlynol ym Mhacistan fel ymgynghorydd ar ran y 91福利社 i gwmni teledu canolog y wlad.

Wedi dychwelyd i Brydain, fe gyfarwyddodd a chynhyrchodd nifer o'r comediau gorau gan gynnwys Playhouse efo John Alderton, The Fall and Rise of Reginald Perrin efo Leonard Rossiter, Butterflies efo Wendy Craig, Solo efo Felicity Kendal, To the Manor Born efo Penlope Keith, Double First efo Michael Williams, On the Top efo Dennis Waterman, Only Fools and Horses David Jason a Nicholas Lyndhurst, Waiting for God efo Graham Crowden a Stephanie Cole, The Legacy of Reginald Perrin a thair cyfres o Next of Kin efo Penlope Keith.

Fel pennaeth comedi y 91福利社 o 1983 tan 1990, Gareth Gwenlan oedd yn gyfrifol am gomisiynu nifer o glasuron comedi gan gynnwysYes Prime Minister, Bread, Blackadder, Allo Allo, One Foot in the Grave, Birds of a Feather a Keeping Up Appearances. Yn ystod y cyfnod fe enillodd y 91福利社 y wobr am y comedi gorau ym mhob seremoni BAFTA heb s么n am ennill tri Emmy, sef Oscar y byd teledu.

Fel cynhyrchydd/gyfarwyddwr, mae Gareth Gwenlan hefyd wedi casglu gwobrau lu gan gynnwys 12 enwebiad BAFTA a dwy wobr Academy. Gwnaethpwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Teledu yn 1997 yn ogystal ag ennill chwe gwobr arall y flwyddyn honno. Yn 1998 etholwyd ef yn Gymrawd Coleg Cerdd a Drama Cymru hefyd. Yn fwy diweddar, fe gynhyrchodd rifyn Nadoligaidd Only Fools and Horses a sicrhaodd gynulleidfa o 21 miliwn o bobl.

Yn 2002 apwyntiwyd ef yn bennaeth Adran Gomedi newydd 91福利社 Cymru yn arwain t卯m o awduron newydd i hyrwyddo a hybu talent newydd o Gymru. Ei gyfres gyntaf oedd High Hopes sef cynhyrchiad ar y cyd efo Boyd Clack o Satellite City.

Ei funud fawr: Rhifyn olaf trioleg Nadoligaidd Only Fools and Horses yn 1996 yn denu cynulleidfa o dros 21 miliwn, sef y record am raglen a recordiwyd ymlaen llaw.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy