91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adar Brith
Twm Si么n Cati
Twm Si么n Cati

Ganwyd: Tua 1530

Magwyd: Porth y Ffynnon, ger Tregaron

Addysg: Barddol, herodrol a chyfreithiol


Lleidr chwedlonol, ond dyn go-iawn parchus

Ceir dau Dwm Si么n Cati o fewn yr un bersonoliaeth, a'r ddau mor wahanol i'w gilydd 芒 Jekyll a Hyde.

Yn y llyfrau hanes cydnabyddedig mae'r naill, Thomas Jones, yn fonheddwr dysgedig, tra bod cof cenedl yn ein cyflwyno i Twm Si么n Cati, herwr lliwgar a dyfeisgar a blediai achos y tlawd a'r gwan yn erbyn yr ariannog a'r pwerus.

O ran y ffeithiau a wyddom amdano, ganed Thomas Jones tua 1530, a hynny ym Mhorth y Ffynnon neu Fountain Gate ar y ffordd allan o Dregaron ar hyd ffordd y mynydd am Gwm Berwyn.

Credir ei fod yn blentyn siawns i 诺r o uchel dras. Cawn gan rai mai ei dad oedd Syr John Wynn o Wydir, ond dywed eraill ei fod yn fab i Si么n Dafydd ap Madog ap Hywel Moethen ac mai ei dad-cu ar ochr ei fam, Catherine (neu Cati), oedd Maredydd ap Ieuan ap Robert, aelod o deulu bonheddig.

Adeg y S锚l Fawr yn 1559 credir fod Thomas Jones ymhlith y rhai a dderbyniodd bardwn gan y Frenhines, ond pardwn am beth, tybed? A oedd yna sail, wedi'r cyfan, i'r hanesion am Twm yr herwr?

Ei yrfa barchus

Un peth sy'n sicr yw bod Thomas Jones yn herodr, yn achyddwr ac yn arwyddfardd o fri.

Ceir tystiolaeth iddo gynorthwyo swyddogion y Coleg Arfbeisiau; mae nifer o enghreifftiau o'i waith yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac yn y Llyfrgell Brydeinig ar ffurf rholiau achau herodrol ar femrwn a llawysgrifau.

Cyfeiriwyd at ei ddawn gan arbenigwyr cyfoes fel Lewis Dwnn a George Owen, a bu gohebu rhyngddynt.

Credir hefyd fod Thomas yn fardd a cheir nifer o englynion a rhai cywyddau a briodolir iddo; yn wir, tybir iddo fod yn bresennol fel bardd ordeiniedig mewn eisteddfod a gynhaliwyd yn Llandaf yn 1564.

Yn 1601 daeth yn Ddistain dros Garon a chredir iddo, yn ystod y cyfnod hwn, droi at y gyfraith a chael ei ethol yn Ynad - stori wahanol iawn i'r hanesion sy'n adrodd amdano'n torri'r gyfraith byth a hefyd.

Er, o ran tegwch i'r straeon hynny, dywedir iddo newid ei ffyrdd yn hwyrach yn ei fywyd.

Does dim s么n am bwy oedd gwraig gyntaf Thomas, ond priododd am yr eildro 芒 merch i Syr John Pryce, Aberhonddu.

Dywedir ei bod hi'n gyn-wraig i un a fu'n Siryf Caerfyrddin, swydd a etifeddwyd gan Thomas. Bu farw Thomas ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 1609 a phrofwyd ei ewyllys yng Nghaerfyrddin.

Y dirgelwch

Ond beth am alter ego Thomas Jones, sef Twm Si么n Cati? Yn ei gyfrol A Topographical Dictionary of Wales yn 1833, mynnodd Samuel Lewis fod Twm yn enwog am ddwyn oddi ar ei gymdogion a'i fod yn lleidr deheuig a medrus.

Hwyrach fod y disgrifiadau hyn ohono yn wir gan iddo ddatblygu mewn chwedlau eraill i fod yn dwyllwr a allai gael y gorau ar ffermwyr ac arglwyddi fel ei gilydd ond iddo lwyddo i osgoi brifo neb yn gorfforol. Twm oedd yr ysbeiliwr craff 芒 chalon feddal.

Mae'r chwedlau amdano'n st么r dihysbydd. Un o'r rhai mwyaf poblogaidd yw honno amdano yn galw gyda siopwr yn Llanymddyfri er mwyn prynu crochan uwd.

Dangosodd y siopwr sawl un iddo a chododd Twm un ohonynt i fyny yn erbyn y golau a syllu i mewn iddo. Mynnai y gallai weld twll yn ei waelod.

Wrth i'r siopwr afael yn y crochan a chael golwg ei hun ar ei du mewn, gwthiodd Twm y crochan dros ben y siopwr druan, ac yna prysurodd i ddwyn gweddill y crochanau.

Ardal Twm oedd y mynydd-dir garw ac unig rhwng Tregaron a Llanymddyfri, yn cynnwys Llanwrtyd a Rhandirmwyn ym mynyddoedd Cambria.

Ger Bryn Dinas, lle mae afon Tywi yn llifo, ceir ogof a gaiff ei hadnabod o hyd fel Ogof Twm Si么n Cati.

Erbyn hyn mae'r fangre'n hafan i adar gyda llwybr swyddogol yn arwain o gwmpas y bryn ac at yr ogof.

Y Robin Hood Cymreig

Aiff cofnodion ysgrifenedig o hanesion am Twm yn 么l i 1810 o leiaf, pan gafodd sylw gan y teithiwr a'r hanesydd Samuel Meyrick yn ei gyfrol bwysig ar hanes Ceredigion.

Dilynwyd hyn gan sgets gan W. F. Deacon, Twm John Catty, the Welsh Robin Hood, mewn cyfrol o'r enw The Innkeeper's Album yn 1823 ac mewn drama gan yr un awdur, The Welsh Rob Roy.

Cyfrol arall sy'n rhamantu am Twm yw The Adventures and Vagaries of Twm Shon Cati gan T. J. Llewelyn yn 1828, cyfrol a ddisgrifiwyd fel y nofel Gymreig gyntaf yn Saesneg.

Yn nes at ein dyddiau ni, cyhoeddodd y Western Mail gartwnau o anturiaethau Twm ar ddiwedd y pedwardegau a dechrau'r pumdegau.

Yna, ar ddechrau'r saithdegau cynhyrchodd y 91福利社 ddrama deledu uchelgeisiol o'r enw Hawkmoor yn cynnwys s锚r fel Jane Asher a Tom Owen. Yn anffodus ni fu'n llwyddiannus iawn.

Y chwedl yn tyfu

Ceir pob math o hanesion ffans茂ol am Twm.

Dywedir iddo, er enghraifft, ffoi i Genefa ddwy flynedd cyn iddo dderbyn ei bardwn brenhinol ar 15 Ionawr 1559.

Does dim amheuaeth i'r hanesion chwedlonol amdano ddod i ben wedi iddo dderbyn y pardwn hwnnw.

Does dim amheuaeth ychwaith am ei allu fel herodr, achyddwr a bardd.

Fe'i cyflogwyd gan fonedd Sir Aberteifi i lunio'u hachyddiaeth. Roedd achyddiaeth a llinach yn rhywbeth poblogaidd iawn yn y cyfnod gydag amryw o wflr mawr yn awyddus i brofi eu bod yn rhan o olyniaeth y Tywysogion.

Gadawai hyn y grefft yn agored i dwyll gan achyddion diegwyddor a fyddai'n ddigon bodlon creu cysylltiadau ffug, ond does dim tystiolaeth i Twm fod ymhlith y rhain.

Mae'n amhosibl bellach i ni gael darlun clir o hanes bywyd Thomas Jones, neu Twm Si么n Cati.

Yn sicr, does dim dadl nad oedd yn ddyn go-iawn, ond mae'n si诺r iddo fod yn fwy o ysgolhaig nag o gnaf, ac yn fwy o achyddwr nag o walch.

Yn hytrach na llyncu'r holl hanesion ffans茂ol a rhamantus amdano, gwell fyddai rhoi coel ar farn un o'i gydoeswyr, Dr John Davies Rhys, yn ei gyfrol Welsh Grammar yn 1592. Ei ddisgrifiad ef o Thomas, neu Twm, oedd 'arwyddfardd mwyaf enwog, medrus a chywir ei gyfnod'.

Lyn Ebenezer

  • Mwy o hanes Twm Si么n Cati

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy