91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adar Brith
George Powell, Llun drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
George Powell

Ganwyd: 1842

Magwyd: Ceredigion


Dafad ddu teulu bonedd Plas Nanteos

Ar y muriau y tu mewn i eglwys hynafol Llanbadarn Fawr, lle bu Sulien yn cynnal ysgol dros fil o flynyddoedd yn 么l, ceir meini coffa i aelodau un o deuluoedd bonedd mwyaf nodedig yr ardal, sef Powelliaid Nanteos.

Fe barhaodd eu cysylltiad 芒 Nanteos am 250 o flynyddoedd, ac wrth ddarllen y beddargraffiadau ar y meini mae modd eu holrhain o'r uniad priodas a arweiniodd at ddyfodiad y Powell cyntaf i'r plas hyd ganol y ganrif ddiwethaf, pan fu farw'r olaf o'r llinach.

Dim ond un aelod o'r teulu a gladdwyd y tu allan i furiau'r eglwys.

George Powell oedd hwnnw, un a fu'n sgweier Nanteos am bedair blynedd.

Claddwyd George mewn bedd cyffredin a di-nod wrth ystlys yr eglwys sy'n wynebu'r ffordd fawr. Heddiw mae drain ac ysgall yn cuddio bedd dafad ddu'r teulu Powell.

Roedd George yn enigma. Yn ddisgynnydd i linach o filwyr nodedig, roedd yn cas谩u rhyfel.

Yn ddisgynnydd i linach o helwyr amlwg, roedd yn cas谩u hela.

Yn ddisgynnydd i linach a fu'n amlwg mewn gwleidyddiaeth leol a Phrydeinig, roedd yn cas谩u unrhyw beth yn ymwneud 芒 gwleidyddiaeth.

Yn ddisgynnydd i deulu a roddai bwyslais ar olyniaeth, roedd George yn wrywgydiwr.

Celfyddyd a'r gansen

Roedd George yn hoff iawn o'r celfyddydau cain. Roedd yn gyfarwydd 芒 Wagner ac Offenbach, Liszt a Clara Schumann.

Ysgrifennai'n rheolaidd at Longfellow. Roedd yn ffrind personol i Swinburne ac yn hanner-addoli'r Marquis de Sade.

Mae'n debyg i George a Swinburne gyfarfod yn Eton, lle datblygodd y ddau, yn dilyn y defnydd o'r gansen fel cosb, hoffter at fasochistiaeth.

Cadwai'r ddau d欧 yn Normandi lle byddai bob amser griw dihysbydd o fechgyn ifanc yn tendio arnynt.

Cadwent fwnc茂od hefyd, a hynny am resymau digon amheus, ac fe ddywedodd neb llai na Guy de Maupassant fod Powell wedi gweini iddo fwnci wedi'i rostio.

Mynnai hefyd fod ganddo law ddynol wedi'i phiclo, a defnyddiai hi ar ei ddesg i gadw papurau yn eu lle.

Mae'n debyg yr hoffai George sugno ar fysedd y llaw fferllyd!

Daeth arferion rhyfedd Powell mor amlwg fel i Ralph Waldo Emerson ei gyhuddo'n gyhoeddus o fod yn sodomiad, cyhuddiad a wadwyd yn llwyr ganddo.

Mae'n bosibl mai fel ymateb i'r cyhuddiad hwn yr aeth Swinburne ati i geisio profi nad oedd ef o'r un tueddiad drwy fynychu puteindy yn St John's Wood a gwahodd Powell i ymuno ag ef yno.

Y chwedl a'r chwip

Am ryw reswm, daeth George o dan ddylanwad diwylliant a hanes Gwlad yr I芒. Cyhoeddodd gyfrolau o'i farddoniaeth ei hun o dan y ffugenw Mjolnir, sef yr enw ar forthwyl y duw rhyfel, Thor.

Ond erbyn hyn roedd ei arferion rhywiol a'i yfed trwm wedi ei wneud yn esgymun gan y teulu.

Gwaharddwyd ef a Swinburne o Nanteos, ond byddai Swinburne yn dal i ymweld 芒'r ardal gan aros gyda George yn Aberystwyth.

Amlygodd George ei werthfawrogiad drwy gyflwyno i'r bardd rai o lythyron de Sade, gwialen fedw a ddefnyddiwyd yn Eton, a llun o'r dodrefnyn a ddefnyddid ar gyfer clymu disgyblion arno i'w chwipio.

Erbyn hyn roedd chwedl Cwpan Nanteos wedi lledaenu'n eang.

Yr hanes a gr毛wyd oedd mai hwn oedd y Greal Sanctaidd a gludwyd yn wreiddiol i Glastonbury ac yna i Ystrad Fflur lle cafodd ei ddefnyddio fel Cwpan Iach谩u cyn i fynach ei achub rhag milwyr Lloegr pan ddiddymwyd y fynachlog a'i ddwyn yn ddiogel i Nanteos.

Honnwyd ymhellach i Wagner ymweld 芒'r plas ac iddo wirioni cymaint ar y chwedl fel iddo gyfansoddi'r opera Parsifal. Ffantasi lwyr oedd hyn, er ei bod hi'n debygol i George gyfarfod 芒'r cyfansoddwr.

Bedd George Powell Er gwaetha'i ffordd ryfedd o fyw, etifeddodd George blasty Nanteos.

Dywedir i'w dad unwaith, er mwyn ceisio creu diddordeb ynddo mewn hela, gyflwyno iddo ddryll hela a rhoi gorchymyn iddo fynd allan i saethu rhywbeth.

Am unwaith, ufuddhaodd George i orchymyn ei dad. Aeth allan a saethu eidion gorau stad Nanteos.

Nid yn unig y bu i George etifeddu Nanteos, ond fe fentrodd briodi hefyd, er mai priodas wedi'i threfnu er mwyn taflu llen dros fywyd rhywiol George oedd hi.

Dywedir mai morwyn fach a fu'n tendio ar George tra oedd yn gwaelu yn ardal Wdig oedd ei wraig.

Yn fuan wedi marwolaeth George, fe ailbriododd hi a symud i fyw i America.

Bu farw George yn 1882, a hynny, yn 么l papur lleol, o effeithiau cramp eithafol.

Claddwyd y cyntaf - a'r olaf - o'r teulu Powell y tu allan i furiau'r eglwys.

Y cymeriad rhyfeddaf

Er gwaethaf ei foesoldeb amheus, roedd i George lawer o agweddau cadarnhaol.

Roedd yn gasglwr toreithiog o lyfrau, dogfennau a lluniau a chyflwynodd y rhan fwyaf o'i gasgliadau i'r Brifysgol yn Aberystwyth ac i sefydliadau lleol eraill.

Ceisiodd sefydlu oriel gelf yn y dref, ac er gwaetha'i ddiffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth, fe'i gwnaed yn Uchel Siryf Ceredigion.

Saif Plas Nanteos o hyd, bron yn ddigyfnewid o ran ei ffurf o ddyddiau George.

Erys ar ei 么l hefyd y Stafelloedd Ymgynnull a godwyd ar gyfer dawnsfeydd a pherfformiadau cerddorol a chwaraeon.

Erys cwpan enwog mewn banc yn ardal Amwythig, ac er bod s么n am ysbrydion yn cyniwair yn Nanteos does neb, hyd yma, wedi gweld ysbryd yr hen George.

O linach y teulu Powell, a fu'n ei lordio hi am ddwy ganrif a hanner yn Nyffryn Paith ger Aberystwyth, does dim amheuaeth mai George oedd y cymeriad rhyfeddaf o blith teulu rhyfeddol.

Gan Lyn Ebenezer


Dweud eich Dweud

Bedd George Powell

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy