91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dai Jones, llun gan S4C Anrhydeddu Dai
Heb os, wyneb Dai Jones, Llanilar yw un o'r rhai mwya' adnabyddus ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd bob blwyddyn.Fe fydd yno eto eleni, ac mae wedi ennill gwobr arbennig am ei gyfraniad i fyd amaethyddiaeth.

Mae Dai Jones, Llanilar yn ffarmwr adnabyddus a chyflwynwr y rhaglenni teledu poblogaidd 'Cefn Gwlad' a 'Rasus'. Ac eleni mae wedi ennill gwobr Syr Bryner Jones,a gyflwynir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhionol Cymru i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i gangen arbennig o amaethyddiaeth.

Eleni, i nodi canmlwyddiant y sioe frenhinol rhoddwyd y wobr i'r unigolyn a ddyfarnwyd i fod wedi gwneud cyfraniad arbennig i amaethyddiaeth gyfan.

Dywedodd y beirniaid fod y gwaith o ddewis un allan o ddeg ymgeisydd ar draws y siroedd wedi bod yn dasg anodd gan bod yr ymgeiswyr i gyd wedi gwneud cyfraniad arbennig i amaethyddiaeth yng Nghymru mewn nifer o wahanol feysydd gan gynnwys addysg, technoleg a'r cyfryngau.

Mae Dai Jones yn uchel ei barch ac wedi bod yn llwyddiannus yn arddangos mewn sioeau, ac yn magu gwartheg o dras Friesian, ac mae wedi cystadlu yn rhyngwladol mewn treialon c诺n defaid. Yn ogystal ag ennill gwobrau yn y byd amaethyddol, mae hefyd wedi ei wobrwyo am ei lais tenor arbennig gyda'r Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn gynharach eleni, fe enillodd Dai Jones wobr BAFTA Cymru hefyd am ei gyfraniad i'r byd teledu yng Nghymru.

Mae Dai Jones yn gyflwynydd wythnosol ar Radio Cymru gyda'i sioe geisiadau 'Ar Eich Cais' bob nos Sul.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy