
 |
 |
Huw
yn llywydd
yn ei fro ei hun
Enwi
llywyddion ac arweinyddion Steddfod Llanelli
Dydd Mercher, Gorffennaf 12, 2000 |
Huw Edwards, cyflwynydd prif raglen newyddion y 91福利社 o Lundain fydd
un o Lywyddion y Dydd Eisteddfod Genedlaethol gyntaf y mileniwm.
Ganwyd Huw ym mro Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. Fe鈥檌 magwyd yn
Llangennech y tu allan i'r dref.
Bellach mae'n wyneb adnabyddus ar y teledu ac yn brif gyflwynydd Newyddion
Chwech y 91福利社 o Lundain.
Yn ogystal fe鈥檌 gwelir ar raglenni teledu eraill ar S4C a'r 91福利社 ac
fe鈥檌 clywir ar y radio.
Meddai: "Mae鈥檔 fraint ac anrhydedd cael fy ngwahodd i fod yn Llywydd
y Dydd a rhwy鈥檔 gobeithio y byddaf yn deilwng o鈥檙 anrhydedd hon."
Dywedodd Aled Si么n, trefnydd Eisteddfodau Cenedlaethol y De, fod Huw
yn ddewis naturiol ac amlwg.
"Enwebir dau Lywydd y Dydd ar gyfer pob Eisteddfod, un ar gyfer y
dydd Mercher ac un arall ar gyfer y dydd Sadwrn olaf.
"Pan ofynnwyd i鈥檙 Pwyllgor Gwaith lleol gynnig enw ar gyfer y
dydd Mercher, roedd y gefnogaeth a鈥檙 awydd i wahodd Huw Edwards yn
unfrydol ac yr ydym fel Eisteddfod yn hynod o falch ei fod wedi derbyn
ein gwahoddiad.
"
Cadeirydd y Pwyllgor Lleol, Garry Nicholas, fydd Llywydd y
dydd Sadwrn olaf."
Arwain ar y llwyfan
Yr arweinyddion llwyfan fydd Dei Tomos, Nia Roberts, Delyth Mai
Nicholas, Frank Lincoln a Garry Owen.
Dywedodd Aled Si么n ei bod yn bwysig i arweinyddion yr Eisteddfod fod
yn gyfuniad o鈥檙 profiadol a鈥檙 newydd, y cyfarwydd a鈥檙 llai cyfarwydd,
yn ogystal ag ychydig o naws leol.
"Penderfynwyd gwahodd Dei Tomos sy鈥檔 hen gyfarwydd ag arwain
yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal 芒 gwahodd Nia Roberts
yn 么l wedi iddi arwain at y tro cyntaf ym M么n y llynedd. Ond mae鈥檙
tri arweinydd arall gyda chysylltiadau lleol, Delyth Mai Nicholas,
Frank Lincoln a Garry Owen."
Dyma鈥檙 tro cyntaf i Frank Lincoln, sy鈥檔 dod o ardal Llanelli,
arwain yn y Genedlaethol er ei fod yn hen gyfarwydd ag arwain cyngherddau
ac wedi arwain yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen. Dyma鈥檙 tro cyntaf
hefyd i Garry Owen, y cyflwynydd a鈥檙 darlledwr arwain yn yr
Eisteddfod Genedlaethol.
Athrawes yw Delyth Nicholas sy鈥檔 amlwg iawn ym myd llefaru
a drama鈥檙 ardal ac wedi ymddangos ar amryw i lwyfan eisteddfodol.
Roedd hi鈥檔 un o'r arweinyddion llwyfan yn Eisteddfod Nedd a鈥檙 Cyffiniau
ym 1994.
|
 |

|