
 |
 |
Cofio
'Steddfod orau'r ganrif'
edrych
yn ôl wrth edrych ymlaen at Eisteddfod Llanelli
Dydd Sadwrn, Mai 20, 2000
|
Gyda鈥檙
paratoadau yn prysur fynd yn eu blaen ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol
yn Llanelli fis Awst nesaf y mae Brenda Lewis yn edrych yn 么l at ymweliad
diwethaf yr Eisteddfod Genedlaethol 芒鈥檙 dref. Un a gafodd ei galw
yn Eisteddfod orau鈥檙 ganrif a lle y cadeiriwyd un o feirdd blaenaf
ein cenedl!
Dyma鈥檙 ail erthygl mewn cyfres sy鈥檔 edrych ymlaen at Brifwyl eleni
yn Nhre鈥檙 Sosban.
Daeth llawer tro ar fyd cyn i鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol ymweld 芒 Llanelli
am y pedwerydd tro.
Dyddiau tywyll yr Ail Ryfel Byd, 1939 hyd at 1945, a diweithdra oedd
yn bennaf gyfrifol ond bu鈥檔 rhaid aros tan 1962 cyn i鈥檙 hen dre gael
y cyfle i groesawu鈥檙 Wyl.
Meddyg lleol, y Dr Harri Llywellyn, llywydd C么r Llanelli, aeth gyda鈥檙
c么r i Eisteddfod Caernarfon ym 1959. Wrth gyfarfod 芒 hwn a鈥檙 llall
ar faes y Brifwyl mynegodd ddyhead pobl Llanelli i groesawu鈥檙 Wyl.
Ym 1960 teithiodd 150 o gefnogwyr mewn bysiau i鈥檙 Deml Heddwch, Caerdydd,
i gyflwyno鈥檙 Cais i Gyngor yr Eisteddfod.
Roedd hon yn fuddugoliaeth fawr a dangoswyd brwdfrydedd a gweithgarwch
arbennig wrth sefydlu pwyllgorau, paratoi rhestr testunau na chodi
arian.
Ar ddydd y Cyhoeddi daeth cannoedd o bobol i weld y Seremoni yng Nghylch
yr Orsedd ym Mharc Howard.
|Meddai yr Archdderwydd Trefin: "Llanelli yw un o gaerau Anghydffurfiaeth
a thwr cadarn democratiaeth. Mae鈥檔 flaenllaw ym myd addysg, gyda dwy
ysgol Uwchradd Gymraeg a chariad at iaith a thraddodiad yn rhan o
enaid y dref.
"Perthyn i鈥檙 dref draddodiad cerddorol a chorawl ers dyddiau Alaw
Ddu . . ."
Tybed i ba raddau mae hyn yn wir heddiw? Yn sicr mae cymdeithas wedi
newid yn rhyfeddol ers hynny!
Ar gyfer yr Eisteddfod, gosodwyd pafiliwn mawr gwyrdd y dywedwyd ei
fod yn fwy na鈥檙 Albert Hall ar gaeau Penygaer ac meddai yr Ysgrifennydd
Cyffredinol, Tomi Scourfield:
"Hon oedd Eisteddfod orau鈥檙 ganrif."
Un peth na allwyd ei drefnu oedd y tywydd ac fe ddaeth gwynt a glaw
i amharu ar y pleser a siomedig tuhwnt oedd cynnal seremoniau鈥檙 Orsedd
yn Sinema Regal - ond fe sicrhaodd y glaw fod y pafiliwn yn llawn
bob dydd!
Bardd y Gadair gyda Llef un yn Llefain oedd Caradog Prichard o Fethesda
ond ar y pryd yn newyddiadurwr yn Llundain.
Defnyddiodd y ffugenw Idris yn deyrnged i鈥檙 Dr Idris Jones a roddodd
y wobr ariannol.
Bardd y Goron oedd y Parchedig Emlyn Lewis, Llandarog, am bryddest,
Cwmwl.
Yn yr eisteddfod hon hefyd y cyflwynodd yr actor, Clifford Evans,
y Fedal aur Celf a Chrefft i Josef Herman, yr arlunydd o Wlad Pwyl
am ei gyfraniad nodedig i gelf yng Nghymru.
Yma hefyd y gwelwyd teledu lliw am y tro cyntaf - a hynny ar stondin
TWW.
Mae cerddoriaeth yn ei amryw ffurfiau wrth graidd pob Eisteddfod a
daeth 70 o gorau i gystadlu.
Er i gyngherddau yr Wyl fod yn llwyddiant mawr bu tynnu鈥檔 groes hefyd
gydag un o鈥檙 arweinyddion, Wyn Morris, yn cwyno bod deugain y cant
o鈥檙 sain yn mynd ar goll yn y llenni a rhaid eu tynnu i ffwrdd,
Gwrthodwyd gwneud hyn ond yn hytrach trowyd y llenni i鈥檙 ochr. Roedd
Wyn yn hynod flin a siomedig am hyn ac yn ogystal roedd agwedd a diffyg
cydweithrediad aelodau鈥檙 C么r wedi peri diflastod iddo.
Serch hynny fe fu鈥檙 cyngherddau yn llwyddiannus iawn gyda鈥檙 tenor,
Kenneth Bowen, a鈥檙 soprano, Esther Lattar ymhlith cantorion yr wythnos.
Ac er gwaethaf y tywydd daeth 66,000 drwy鈥檙 giatiau a gwerthwyd 拢30,000
o docynnau gan wneud elw sylweddol. |
 |

|